Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi ei wahardd o 'holl weithgareddau pêl-droed'
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi ei wahardd o holl weithgaredd sy'n ymwneud â phêl-droed yn dilyn methiant y clwb i gydymffurfio â gorchymyn panel disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae'r gwaharddiad yn ymwneud â nifer o anghydfodau gan bersonél Clwb Pêl-droed Dinas Bangor sydd yn gysylltiedig â honiad o beidio â thalu cyflogau chwaraewyr medd yr undeb.
Gorchmynnodd y panel disgyblu i'r clwb dalu'r arian sy'n ddyledus o fewn 31 diwrnod o 29 Hydref 2021.
Mewn datganiad dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y dyddiad cau ar gyfer y taliadau hyn wedi mynd heibio.
O ganlyniad fe fydd hyn yn arwain at "waharddiad awtomatig o'r holl weithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed tan yr amser hwnnw bod y Clwb yn cydymffurfio â'r gorchymyn."
Mae'r gwaharddiad yn cynnwys:
- Gemau pêl-droed cystadleuol a/neu ar dir o dan awdurdodaeth y clwb
- Gweithgareddau hyfforddi sy'n gysylltiedig â'r clwb o dan awdurdodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
- Cyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â phêl-droed neu'r clwb
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r clwb am ymateb.