Ffrainc yn canslo cyfarfod dros ffrae am lythyr y Prif Weinidog

Mae Ffrainc wedi canslo cyfarfod ‘hanfodol’ i drafod y sefyllfa am fudwyr yn croesi’r Sianel gyda’r ysgrifennydd cartref Priti Patel.
Daw hyn ar ôl i Boris Johnson ysgrifennu llythyr cyhoeddus i Emmanuel Macron yn galw am fesurau i fynd i’r afael â’r mater.
Fe wnaeth 27 o fudwyr foddi wrth groesi i’r Deyrnas Unedig mewn cwch ddydd Mercher.
Mae’r weinyddiaeth wedi disgrifio llythyr Mr Johnson fel “annerbyniol”.
Ychwanegodd llefarydd nad oedd Priti Patel bellach wedi ei gwahodd i gyfarfod rhwng Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen a’r Comisiwn Ewropeaidd o ganlyniad.
Darllenwch y stori’n llawn yma ar wefan The Independent.