Newyddion S4C

Manchester United i benodi Ralf Rangnick fel hyfforddwr dros dro

The Guardian 25/11/2021
Old Trafford

Mae clwb pêl-droed Manchester United ar fin penodi Ralf Rangnick fel eu prif hyfforddwr hyd at ddiwedd y tymor. 

Yn ôl The Guardian, mae'r clwb yn nesáu at enwi Rangnick, sydd yn bennaeth chwaraeon a datblygu clwb Lokomotiv Moscow yn Rwsia, fel hyfforddwr dros dro. 

Dydy Rnagnick heb weithio fel prif hyfforddwr ers 2019 ond mae eisoes wedi arwain clybiau mawr yn yr Almaen fel RB Leipzig a Schalke. 

Bydd yr Almaenwr yn olynu lle Ole Gunnar Solksjaer, gafodd ei ddiswyddo dros y penwythnos ar ôl tair blynedd wrth y llyw. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.