Teyrnged i ddyn 'disglair a galluog' o Gaerdydd fu farw mewn gwrthdrawiad

25/11/2021
x

Mae teulu dyn ifanc 21 oed o Gaerdydd wedi talu teyrnged iddo ar ôl iddo farw mewn gwrthdrawiad ar ei feic modur.

Dywedodd teulu Jordan Talbot, 21, o Radyr, Caerdydd ei fod yn "fachgen disglair, galluog a hapus oedd â'i ddyfodol o'i flaen".

Bu farw'r dyn ifanc yn dilyn gwrthdrawiad tri cherbyd yn Y Rhws, Bro Morgannwg, yn gynnar fore dydd Mawrth 23 Tachwedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 05:20 ar ffordd yr A4226 rhwng cylchfan Y Rhws a chylchfan canolfan British Airways.

Roedd car Vauxhall Astra gwyn, beic modur Honda glas a cherbyd cludo nwyddau trwm mewn gwrthdrawiad a'i gilydd.

Er holl ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r dyn ifanc yn y fan a'r lle.

Cafodd fenyw 53 oed oedd yn gyrru'r Vauxhall Astra ei chludo i'r ysbyty.

'Person caredig a chariadus'

Dywedodd ei deulu: "Ry'n ni i gyd wedi'n tristáu'n llwyr gyda cholli Jordan mor sydyn. Roedd yn fachgen ifanc disglair, galluog a hapus oedd â'i ddyfodol i gyd o'i flaen."

"Roedd e'n gyrru ei feic modur i'w waith i wneud ei swydd ddelfrydol gyda Aston Martin pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

“Gweithiodd mor galed i gael y swydd ac roedd e'n gwybod pa mor falch oeddem ohono," ychwanegodd y teulu.

"Roedd e'n berson caredig, cariadus ac roedd ganddo hiwmor gwych."

Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, gyda lluniau dashcam, neu wedi gweld sut yr oedd y beic modur neu'r car Vauxhall Astra yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100410553.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.