Beiciwr modur 21 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad tri cherbyd
Mae dyn ifanc 21 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad tri cherbyd yn Y Rhws, Bro Morgannwg, yn gynnar fore dydd Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 05:20 ar ffordd yr A4226 rhwng cylchfan Y Rhws a chylchfan canolfan British Airways.
Roedd car Vauxhall Astra gwyn, beic modur Honda glas a cherbyd cludo nwyddau trwm mewn gwrthdrawiad a'i gilydd, ac er holl ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r dyn ifanc yn y fan a'r lle.
Cafodd y fenyw 53 oed oedd yn gyrru'r Vauxhall Astra ei chludo i'r ysbyty.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad, gyda lluniau dashcam, neu wedi gweld sut yr oedd y beic modur neu'r car Vauxhall Astra yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100410553.
Llun: Google