Cynnal angladd Jack Lis fu farw wedi ymosodiad gan gi

Bu cannoedd o bobl yn rhoi teyrnged i fachgen 10 oed o Gaerffili yn ei angladd ddydd Iau.
Bu farw Jack Lis ar ôl ymosodiad gan gi yn nhŷ ei ffrind ddydd Llun, 8 Tachwedd.
Arhosodd yr orymdaith y tu allan i Ysgol Gynradd Cwm Ifor am gyfnod wrth i ffrindiau ysgol Jack ryddhau balŵns er cof amdano.
Yn ôl WalesOnline, dywedodd ei fam, Emma, y byddai'n gweld eisiau ei lais ac y byddai'n "rhoi unrhyw beth i'th glywed eto".
Darllenwch ragor yma.