Newyddion S4C

Yr ymgyrch losgi: Deunydd dyfais ar dir Bryn Fôn wedi ei ddefnyddio 'ddiwrnod ynghynt'

25/11/2021

Yr ymgyrch losgi: Deunydd dyfais ar dir Bryn Fôn wedi ei ddefnyddio 'ddiwrnod ynghynt'

Mae cyn heddwas oedd yn ymchwilio i’r ymgyrch losgi tai haf wedi dweud fod yr un math o ddeunydd ar gyfer dyfeisiadau ffrwydrol gafodd ei ddarganfod ger cartref y canwr a'r actor Bryn Fôn yn 1990 wedi ei ddefnyddio ar gyfer creu dyfeisiadau eraill ddiwrnod ynghynt.

Roedd Bryn Fôn yn siarad gyda’r cyn heddwas Alan Dulyn Owen am y tro cyntaf ers iddo gael ei arestio dros 30 mlynedd yn ôl, fel rhan o raglen arbennig ‘Bryn Fôn – Chwilio am Feibion Glyndŵr’ sydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau.

Yn 35 oed ar y pryd, cafodd Mr Fôn ei arestio ar ôl i’r heddlu gynnal archwiliad o’i gartref, cyn ei gadw yn y ddalfa am bedair noson, a’i ryddhau yn ddigyhuddiad.

Ar y rhaglen, mae'n pwysleisio nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad gyda'r ymgyrch losgi tai haf na Meibion Glyndŵr.

Dywedodd Alan Dulyn Owen yn ei gyfweliad nad oedd “dim dwywaith” fod pwy bynnag oedd wedi gosod y deunyddiau ar gyfer dyfais yng nghlawdd Bryn Fôn hefyd yn gyfrifol am greu dyfeisiadau eraill:

“Pwy bynnag roth y device yna neu’r pecyn yn dy glawdd di, does dim dwywaith mai nhw oedd wedi bod wrthi’n gwneud y bombs cynt.

“Y peth oedd - y weiren oedd yn y pecyn, wel, weiren a dau fatri oedd o, oedd y weiren o Indonesia, neu yn y Far East. Doedd hi ddim yn British Standard o gwbl.

“Oedd yr un weiren ‘di cael ei iwsio mewn devices cynt – yn ystod y diwrnod cynt,” meddai.

Image
Bryn Fôn
Er i’r ymgyrch losgi ddechrau yn 1979, aeth deng mlynedd heibio cyn i’r heddlu arestio neb

Roedd y wybodaeth yma yn gwbl newydd i’r canwr, sydd wedi cwestiynu ers degawdau pwy oedd yn gyfrifol am blannu’r deunyddiau ar gyfer creu dyfais ar dir ei gartref.

Yn dilyn y cyfweliad gyda’r cyn heddwas, dywedodd Mr Fôn fod ei amheuon am bwy osododd y deunyddiau yn parhau, er fod llawer o’r wybodaeth gan Mr Owen yn newydd:

“Lot o betha newydd yn fan ‘na…mae o’n dweud na weiran a batri oedd yn y pecyn, oedd na fwy o betha hynny yn y pecyn.

“Oedd na bowdwr gwyn mewn plastig, oedd na bylbs, fel oedd gen ti hefo camera erstalwm, oedd bob dim yna i chdi neud dyfais – dyna’r peth, oedd o mor daclus.

“Ella bo fi’n bod yn sinigaidd, ella bod Alan ddim yn gwybod mwy na finnau, pwy wnaeth roi o yna.

“Felly mae gen i dal fy amheuon,” meddai.

Bryn Fôn – Chwilio am Feibion Glyndŵr ar S4C, nos Iau, 25 Tachwedd am 21:00. 

Llun: Arwyn Herald/Daily Post 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.