Y Gweinidog Addysg yn codi pryderon gyda TikTok am gamdriniaeth athrawon
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi lleisio ei bryderon gyda chwmni TikTok am y cynnydd diweddar mewn fideos sarhaus o athrawon sy'n cael eu rhannu gan ddisgyblion ar blatfform y cwmni.
Dywedodd Jeremy Miles AS ei bod yn "gwbl annerbyniol" bod athrawon yn dioddef camdriniaeth o'r fath ac mae wedi cysylltu'n uniongyrchol â TikTok i geisio datrys y broblem.
Dywed TikTok nad ydynt yn goddef casineb, bwlio na cham-drin o unrhyw fath ar eu platfform.
Mae sawl ysgol wedi cwyno dros yr wythnosau diwethaf am nifer cynyddol o fideos anweddus sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ac sydd yn targedu athrawon neu aelodau staff.
Mae undeb addysg wedi rhybuddio y gallai disgyblion gael eu harestio am sarhau athrawon ar ap TikTok.
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 22, 2022
Daw hyn wrth i fwy a mwy o fideos sydd yn sarhau athrawon gael eu rhannu mewn ysgolion ar draws Cymru.
Dywedodd TikTok nad yw'n goddef casineb, bwlio na cham-drin. pic.twitter.com/H7hCsfGoCp
Yn ôl un undeb athrawon, mae'r negeseuon sarhaus wedi cael effaith ar iechyd meddwl rhai athrawon gan arwain at rhai aelodau staff i ail-ystyried eu gyrfaoedd.
Dywedodd Jeremy Miles: "Mae’n gwbl annerbyniol bod athrawon yn destun cynnwys cignoeth, sarhaus a niweidiol ar-lein, ac ni ddylid goddef unrhyw gam-drin o’r fath."
"Fel mater o flaenoriaeth, y gwnes i gyfarwyddo fy swyddogion i gysylltu â TikTok yn uniongyrchol i fynegi fy mhryderon ynghylch y gofid sylweddol y mae hyn yn ei achosi i athrawon, ac i ofyn am i unrhyw achosion o gynnwys amhriodol neu dramgwyddus gael eu dileu ar unwaith.
"Mae swyddogion gweithredol TikTok wedi cadarnhau eu bod wedi ymrwymo i ddatrys y mater hwn ar fyrder.
"Rwy’n cael ar ddeall fod tîm hyder a diogelwch pwrpasol wedi’i sefydlu, sy’n gweithio ar frys i ddileu a/neu wahardd cyfrifon sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n dynwared ysgolion neu’n postio cynnwys sy’n bwlio neu gynnwys aflonyddu wedi’i gyfeirio at athrawon.
"Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda TikTok, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r mater hwn i mi’n rheolaidd."
Mewn ymateb i rhai o'r cwynion, dywedodd TikTok nad ydynt yn goddef casineb, bwlio na cham-drin.