Richard Madeley yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro'n wael ar 'I'm a Celebrity'
25/11/2021
Mae'r cyflwynydd teledu Richard Madeley wedi'i gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro'n wael ar set 'I'm a Celebrity Get Me Out of Here' fore dydd Iau.
Yn ôl Nation.Cymru, fe aeth cyflwynydd 'Good Morning Britain' yn sâl yn sydyn yn oriau man y bore.
Cafodd Mr Madeley ei gludo i ysbyty yn agos i Gastell Gwrych rhag ofn i'w gyflwr waethygu.
Yn ôl adroddiadau, mae o bellach yn gwella yn yr ysbyty.
Darllenwch fwy yma.
Llun: ITV