Cip ar brif benawdau'r dydd
Bore da a Phasg Hapus gan dîm Newyddion S4C!
Dyma gip olwg ar rai o'r prif benawdau ar Sul y Pasg:
Newyddion BBC Cymru: Ailgylchu tuniau nitrous oxide Bae Caerdydd
Bydd miloedd o duniau o nitrous oxide neu 'nwy chwerthin' a gafodd eu gadael ym Mae Caerdydd nos Wener yn cael eu hailgylchu dan gynllun newydd. Mae Grŵp Afonydd Caerdydd nawr yn gobeithio gallu eu hailgylchu wedi iddyn nhw ddod ar draws "cwpwl o filoedd" ohonynt yn y bae.
WalesOnline: Protestiadau Kill the Bill yng Nghymru
Aeth criw o brotestwyr ymgynnull yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn i wrthwynebu bil trosedd newydd maen nhw'n teimlo bydd yn lleihau ar eu gallu i brotestio. Gwnaeth y protestwyr orymdeithio drwy strydoedd y brifddinas, yn ôl WalesOnline.
The Independent: Beirniadu Barwnes am wadu'r pandemig
Mae aelod o Dŷ'r Arglwyddi wedi awgrymu nad yw'r pandemig yn bodoli. Mae'r Farwnes Helena Morrissey sydd hefyd yn aelod o Lywodraeth y DU wedi cael ei beirniadu am y sylwadau, yn ôl The Independent.
The Sun: Dim pasbort i dafarndai Lloegr
Mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyhoeddi ddydd Llun na fydd angen pasbort brechu er mwyn cael mynediad i dafarndai a bwytai Lloegr. Mae'n debygol y bydd llywodraeth nesaf Cymru yn gwneud penderfyniad ar y defnydd o basbortau brechu wedi'r etholiad ar 6 Mai.
The Irish Times: Golygfeydd treisgar yng Ngogledd Iwerddon
Fe wynebodd Gogledd Iwerddon noson arall o drais nos Sadwrn. Cafodd tri char eu rhoi ar dân yn Newtownabbey. Mae'r heddlu a gwleidyddion yno wedi galw ar bobl i ostegu, yn ôl The Irish Times.