Newyddion S4C

Pryder na fydd gwasanaeth newyddion digidol 'cyflawn' ar gael yn y Gymraeg

Pryder na fydd gwasanaeth newyddion digidol 'cyflawn' ar gael yn y Gymraeg

Mae un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn pryderu na fydd gwasanaethau newyddion digidol "cyflawn" ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn sgil y newyddion y gallai Golwg360 golli hanner ei nawdd.

Ers 2009, mae Golwg360 wedi derbyn grant blynyddol o £200,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru ond mae Newyddion S4C yn deall y bydd yr arian yn cael ei haneru yn y dyfodol.

Mae’r gwaith o ddarparu gwasanaeth newyddion digidol gyda grant y Cyngor wedi mynd allan i dendr yn gynharach eleni.

Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru na fydd tendr presennol gwasanaeth newyddion Golwg360 yn cael ei effeithio.

'Swm fach o arian'

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Rhodri Glyn Thomas, oedd yn gyn-Weinidog Treftadaeth rhwng 2007 a 2008: "Gyda swm fach o arian fel £200,000, os rhannwch chi hwnnw yn ddau a chynnig £100,00 yr un am ddau wasanaeth gwahanol, y peryg ydy bod chi mynd i ddiweddu gyda sefyllfa lle nad oes 'na'r un gwasanaeth cyflawn i'w gael yn y Gymraeg."

Yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru, dyw'r broses dendro "ddim wedi ei chwblhau".

Ychwanegodd Mr Glyn Thomas y gallai Golwg360 gael ei "feirniadu" am beidio defnyddio'r buddsoddiad i ddatblygu'r gwasanaeth.

Dywedodd: "Ma' hon yn broblem barhaus mewn gwirionedd, unwaith mae'r Llywodraeth yn rhoi swm o arian i unrhyw fudiad, mae 'na dybiaeth wedyn bod yr arian hynny'n mynd i barhau am byth.

"Ond y bwriad wrth gynning arian yn y lle cynta' ydy cynnig y cyfle i ddatblygu rhwybeth.

"Gellid beirniadu Golwg360 ei bod nhw wedi aros yn yr unfan ac does ddim ryw ddatblygiadau, newydd, ffres, gwahanol wedi deillio o'r arian hynny."

'Parhau i arloesi'

Dywedodd llefarydd ar ran Golwg wrth Newyddion S4C eu bod wedi gwneud sawl datblygiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

“Mae Golwg yn falch o'n hanes profedig o greu newyddiaduraeth annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod cyfnod o bandemig, lansiwyd Golwg360 ar ei newydd wedd a lansiwyd Golwg+ - sef cylchgrawn Golwg ar y we am y tro cyntaf. 

“Gyda'n tîm talentog a gweithgar, rydym yn edrych ymlaen i barhau i arloesi yn y maes, a pharhau i wasanaethu ein darllenwyr ffyddlon.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru wrth Newyddion S4C: “Gallwn gadarnhau fod y tendr newydd ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022-Mawrth 2026 wedi ei hysbysebu dros yr haf a bod cyfweliadau gyda phanel annibynnol wedi eu cynnal ym mis Hydref. 

“Dyw'r broses ddim wedi ei chwblhau ac fe fyddai'n amhriodol gwneud sylw ar drafodaethau sy'n parhau. Fodd bynnag, gallwn gadarnhau nad oes newid wedi bod i grant cyfredol cylchgrawn Golwg na'r grant ar gyfer tendr presennol y Gwasanaeth Newyddion (Golwg 360). 

“Bydd y tendr newydd ar gyfer y gwasanaeth newyddion yn dechrau ar 1 Ebrill 2022 a bydd datganiad yn cael ei wneud mewn da bryd ar gyfer hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.