Newyddion S4C

Rheolau newydd yn galluogi chwaraewyr rygbi i newid eu tîm cenedlaethol

Evening Standard 24/11/2021
Mae Malakai Fekitoa yn ceisio newid ei dîm o Seland Newydd i Tonga
Malakai Fekitoa

Fe fydd chwaraewyr rygbi yn medru newid y wlad y maen nhw'n ei gynrychioli mewn gemau rhyngwladol ar ôl i sefydliad World Rugby gymeradwyo newid yn y rheolau ddydd Mercher. 

Ar hyn o bryd, nid oes modd i chwaraewr gynrychioli gwlad arall ar ôl derbyn cap llawn gan dîm cenedlaethol. 

Yn ôl The Evening Standard, fe fydd y rheol yma yn cael ei newid o 1 Ionawr 2022 gan alluogi chwaraewyr i newid eu gwlad ryngwladol. 

Daw'r penderfyniad ar ôl i'r chwaraewr Malakai Fekitoa geisio newid ei dîm cenedlaethol i'w famwlad Tonga ym mis Mehefin eleni - er iddo chwarae 24 gwaith dros Seland Newydd. 

Yn ôl y rheol newydd, fe fydd rhaid i chwaraewr ddangos cysylltiad cryf gyda gwlad arall er mwyn newid ei dîm cenedlaethol, megis cael ei eni yn y wlad honno. 

Fe fydd yn rhaid hefyd i'r chwaraewr gymryd saib o 36 mis oddi wrth rygbi rhyngwladol cyn newid ei dîm. 

Darllenwch y stori llawn yma

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.