Cyn-hyfforddwr Caerdydd ac Abertawe, Frank Burrows, wedi marw

Nation.Cymru 24/11/2021
Frank Burrows

Mae clybiau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe wedi talu teyrngedau i'w cyn-hyfforddwr Frank Burrows ar ôl iddo farw yn 77 oed ddydd Mercher. 

Er y gystadleuaeth ffyrnig rhwng y ddau glwb, roedd Burrows yn boblogaidd ymysg cefnogwyr ar draws de Cymru, meddai Nation.Cymru. 

Treuliodd Burrows ddau gyfnod wrth y llyw gyda Chaerdydd rhwng 1986-89 a 1998-2000, a fo oedd yr unig hyfforddwr i arwain yr Adar Gleision i ddyrchafiad o'r Gynghrair Bêl-droed ar ddau achlysur. 

Llwyddodd i ennill Tlws y Gynghrair Bêl-droed yn 1994 gydag Abertawe, yn ystod ei gyfnod yn rheoli'r Elyrch rhwng 1991 a 1995.

Darllenwch y stori llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.