
Ymgais blogiwr i dalu dyledion cinio ysgol yng Ngwynedd yn mynd yn ofer

Mae blogiwr wnaeth gynnig talu am ddyledion cinio disgyblion mewn ysgol yng Ngwynedd wedi dweud na chafodd ateb i’r cynnig.
Fe wnaeth Simon Harris o Essex gynnig helpu ar ôl i rieni yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, dderbyn llythyr yn dweud na fyddai eu plant yn cael cinio oni bai fod eu dyledion yn cael eu talu'n syth.
Fe wnaeth Mr Harris ddisgrifio’r llythyr fel “gwallgofrwydd” cyn cynnig talu’r £1,800 oedd yn ddyledus i’r ysgol, medd North Wales Live.
Ond ers hynny, mae’r blogiwr wedi dweud na chafodd unrhyw ateb i'r cynnig.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd “Ar ôl cynnig talu’r dyledion cinio ysgol yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cefais i ddim ateb i’r tweets nag e-byst, ac roedd hi’n glir i mi gan y rhai sy’n gysylltiedig â’r ysgol a’r cyngor, y byddai unrhyw ymgais i drosglwyddo’r arian yn fy ngweld i’n derbyn fy arian yn ôl”.
Mae’r tad i bedwar bellach wedi rhoi’r arian i fanc bwyd.
Ychwanegodd: "Felly, rwy’n falch o ddweud fod y £1,800 wedi ei roi i Fanc Bwyd Arfon, sef y banc bwyd Trussell Trust agosaf i’r pentref.”
Fe wnaeth y llythyr at rieni disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle ddenu cryn dipyn o sylw dros yr wythnosau diwethaf.
Un wnaeth ymateb yn chwyrn oedd y pêl-droediwr rhyngwladol, Marcus Rashford, sydd eisoes wedi ymgyrchu dros roi cinio ysgol am ddim i ddisgyblion difreintiedig.
Darllenwch y stori’n llawn yma.