Newyddion S4C

Marcus Rashford yn beirniadu polisi cinio ysgol yng Ngwynedd

11/11/2021

Marcus Rashford yn beirniadu polisi cinio ysgol yng Ngwynedd

Mae pêl-droediwr rhyngwladol sydd wedi ymgyrchu dros roi cinio am ddim i ddisgyblion wedi beirniadu ysgol yng Ngwynedd am fygwth peidio â darparu cinio ysgol i blant sydd â dyled o ddwy geiniog neu fwy ar eu cyfrifon cinio.

Mewn llythyr at rieni, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes y byddai’r gogyddes yn cael gwybod i "beidio â rhoi bwyd i unrhyw ddisgybl sydd â dyled dros £0.01" os na fydd dyledion wedi eu talu erbyn 22 Tachwedd.

Wrth ymateb i'r llythyr ar y cyfryngau cymdeithasol, gofynnodd Marcus Rashford sydd yn chwarae i Manchester United a Lloegr: "Onid ydym ni wedi dysgu unrhyw beth yn ystod y pandemig?" 

"Allwn ni ddim dangos ychydig o ddealltwriaeth? Dewch ymlaen nawr..," meddai. 

Mae Rashford newydd dderbyn MBE am ei waith yn ymgyrchu i helpu plant sydd mewn angen. Yn ystod y pandemig, fe wnaeth Llywodraeth y DU newid ei pholisi ar roi talebau cinio ysgol am ddim i blant yn dilyn ymgyrch y pêl-droediwr 24 oed.  

Dywed yr ysgol fod prydau ysgol yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd ac mae unrhyw ddyledion sy'n weddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn gorfod cael eu talu o gyllideb yr ysgol.

Mae Darren Owen, sydd yn rhiant ar blant yn yr ysgol, wedi galw’r penderfyniad yn un “gwarthus”.

Mae Mr Owen yn cwestiynu "beth sydd o'i le" gyda'r system a'i bod hi'n bosib nad yw'r plentyn yn ymwybodol fod y rhieni'n "ei chael hi'n anodd talu" am ginio.

Dywed Cyngor Gwynedd nad ydyn nhw'n gweithredu “polisi cyffredinol o wrthod cinio i ddisgyblion” ac y byddan nhw’n trafod y mater gyda’r ysgol.

'Mynegi pryder'

Dywedodd Neil Foden, Pennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle wrth raglen Newyddion S4C: "Fe gysyllton ni â'r cyngor i fynegi pryder fod dyled o dros £1800 wedi ei gasglu gan ryw 70 o ddisgyblion. Roedd ar naw o rieni ddyled o dros £50 ac roedd ar dri ohonynt ddyled o dros £100."

Aeth Mr Foden ymlaen i ddweud fod yr ysgol wedi anfon neges destun i rieni yn wythnosol i'w hatgoffa o'r ddyled ond yn y rhan fwyaf o achosion nad oedd ymateb ac mewn rhai achosion fe gynyddodd y dyledion.

Mae'r pennaeth yn pwysleisio y dylai unrhyw un sydd ddim yn gymwys am ginio ysgol am ddim ac unrhyw riant sydd mewn "trafferthion ariannol go iawn" ysgrifennu at Bennaeth Blwyddyn eu plentyn.

Dywedodd hefyd fod y polisi a gafodd ei fabwysiadu gan yr ysgol wedi ei argymell gan Gyngor Gwynedd ac mae "geiriad y llythyr yn adlewyrchu'r dull a gytunwyd". 

Mae system mewn nifer o ysgolion ar draws Cymru lle mae arian yn cael ei ychwanegu i gyfrifon disgyblion er mwyn talu am brydau ysgol.

'Cysylltu â'r Adran Addysg'

Yn y llythyr, mae Mr Foden yn dweud fod “llond llaw o ddisgyblion wedi cronni dyledion gwerth cyfanswm o fwy na £1,800”.

Dywed y llythyr hefyd y bydd unrhyw ddyled dros £10 yn cael ei “drosglwyddo i’r Awdurdod” ac y byddai rhieni yn derbyn anfoneb gan y Cyngor.

Meddai’r pennaeth yn ei lythyr fod “graddfa’r diffyg talu yn golygu ei bod yn amlwg bod rhaid gwneud rhywbeth”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Byddem yn annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy'n cael anhawster talu am ginio ysgol eu plentyn i gysylltu â'r Adran Addysg neu'r ysgol yn uniongyrchol. Mae’n bosib y bydd gan eu plentyn hawl i ginio ysgol am ddim.

“Mae system talu ar-lein wedi ei gyflwyno sy’n gofyn i rieni sicrhau bod digon o arian ar gael i dalu am brydau ysgol eu plentyn. Mae'r system yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd i rieni na allant, am ba reswm bynnag, dalu am gyfnod byr. Anfonir negeseuon atgoffa yn ôl yr angen i sicrhau nad oes unrhyw ddyledion sylweddol yn cronni.

“Fel Cyngor, nid ydym yn gweithredu polisi cyffredinol o wrthod cinio i ddisgyblion, a byddwn yn trafod y mater hwn yn uniongyrchol gyda’r ysgol.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.