Newyddion S4C

Cyngor yn 'ymddiheuro'n ddiffuant' wedi ffrae am ddyledion cinio ysgol

12/11/2021
Ysgol Dyffryn Nantlle

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am eiriad llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol.

Roedd y llythyr yn nodi na fyddai unrhyw ddisgybl sydd â dyled dros £0.01 yn derbyn bwyd os na fydda'r dyledion wedi eu talu erbyn 22 Tachwedd.

Fe gafwyd ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg, gyda'r pêl-droediwr rhyngwladol Marcus Rashford yn ymuno yn y feirniadaeth o'r ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Newyddion S4C brynhawn dydd Gwener: “Rydym yn ymddiheuro am y pryder a phoen meddwl sydd wedi ei achosi yn sgil cynnwys a geiriad llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol. 

“Wedi ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd yn achos y llythyr diweddar, mae’n ymddangos fod cyngor technegol a roddwyd gan yr Adran Addysg ar sut i ymdrin â dyledion taliadau cinio ysgol wedi creu aneglurder, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am effaith hyn. Yn sgil hyn, byddwn yn adolygu ein harweiniad i ysgolion.

"Fel Cyngor, mae lles plant a phobl ifanc wastad yn flaenoriaeth i ni, a byddwn bob amser yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn ar draws y sir yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol. Dylai hyn fod yn glir mewn unrhyw lythyr at rieni gan ysgolion y sir wrth drafod cinio ysgol.”

Yn ôl llywodraethwyr yr ysgol roedd y pennaeth, Neil Foden wedi derbyn arweiniad gan yr awdurdod ynglŷn â delio gyda’r dyledion ac yn dilyn derbyn yr arweiniad yma gyrrwyd y llythyr i’r rhieni a’r gofalwyr.

Bydd y corff yn trafod gyda’r awdurdod y cyngor technegol rhoddwyd er mwyn sicrhau nad oes problemau cyfathrebu tebyg yn y dyfodol.  

Mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy'n cael anhawster talu am ginio ysgol eu plentyn i gysylltu â'r Adran Addysg neu'r ysgol yn uniongyrchol.

“Os nad yw plentyn yn gymwys ar gyfer y cynllun cinio am ddim, byddwn yn annog y teuluoedd i gysylltu am arweiniad a chefnogaeth os ydynt yn wynebu caledi ariannol.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.