Newyddion S4C

Ail gartrefi: Newidiadau posib i'r system gynllunio a chynllun peilot i Ddwyfor

Arwydd Hawl i Fyw Adra

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i geisio lleddfu effeithiau ail gartrefi ar gymunedau lleol.

Fel rhan o'r cynllun fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar newid y system gynllunio i'r dyfodol. 

Yn siarad yn y Senedd dydd Mawrth, fe wnaeth y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, hefyd amlinellu cynllun peilot ar gyfer ardal Dwyfor yng Ngwynedd o fis Ionawr 2022 ymlaen. 

Bydd cyllid o hyd am £1m ar gael i adnewyddu neu brynu cartrefi gwag yn yr ardal, gyda dau swyddog yn cael eu cyflogi'n benodol i ymgynghori gyda'r gymuned leol er mwyn cynnig cymorth i'r farchnad dai yno.

Rheolau cynllunio

Fel rhan o'r cynllun ehangach, fe allai newidiadau sylweddol gael eu gwneud i'r system gynllunio, gydag awdurdodau lleol derbyn pwerau ychwanegol i reoli faint o ail dai sy'n cael eu hadeiladu. 

Bydd y newidiadau yn golygu y byddai'n rhaid i ddatblygwyr chwilio am ganiatâd ychwanegol gan awdurdodau lleol er mwyn adeiladu cartrefi sydd am gael eu defnyddio fel ail dai. 

Image
Protest
Protest ddiweddar ar risiau'r Senedd yn galw ar y llywodraeth i weithredu ar sefyllfa ail gartrefi a'u heffaith ar gymunedau

Yn dibynnu ar ganlyniadau'r cynllun peilot, fe fydd y newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod haf 2022.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl nifer o brotestiadau ar hyd a lled Cymru yn galw ar y llywodraeth i ymateb i'r argyfwng ail gartrefi. 

Wrth siarad yn y Senedd, dyweddod Julie James AS: "Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o allu prynu neu rentu tai fforddiadwy yn yr ardal lle cawsant eu magu fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol.

"Gall niferoedd uchel o ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig.

"Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o’n heconomi gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru.

"Ond dydyn ni ddim eisiau pentrefi sy’n orlawn o bobl yn y tymor gwyliau ond fel y bedd yn ystod misoedd y gaeaf am nad oes neb yn byw ynddynt.

"Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall."

Dywedodd menyw ifanc wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn "methu" prynu tŷ ar Ynys Môn, lle gafodd ei geni, gan fod y prisiau wedi cynyddu gymaint.

Dywedodd Lowri Turner: "Mae'n dorcalonnus, yn enwedig i rywun oedran fi sy'n 23 oed yn dechrau chwilio amdan dai 'lly.

"Ac mae prisiau, enwedig ar Sir Fôn, ma' nhw jyst 'di cynyddu gymaint. Ac mewn ffordd rili mae'n gwerthu pobl ifanc i ffwrdd o'r ynys.

"A dim ond hynna, mae'n gwerthu'r iaith hefyd achos mae pobl Cymraeg rŵan, pobl ifanc yn symud o'r ynys  i chwilio am rywle i weithio,  ac yn amlwg maen nhw'n mynd a'r iaith Gymraeg i ffwrdd," ychwanegodd.

"Ac wedyn beth sy'n tueddu digwydd ar yr ynys rŵan ydi, pobl sy'n dod o ffwrdd yn prynu'r tai. Yn enwedig ar ôl y cyfnod clo, pobl yn prynu tai a heb hyd yn oed 'di sbïo ar y tŷ cyn ei brynu fo.

"Mae'n neud 'di bach yn flin 'de achos ti'n hogan wreiddiol o'r ynys, isho bwriadu paratoi cael teulu, a isho yn amlwg cael plant chdi generation nesa ellu i siarad y Gymraeg ag byw ar yr ynys fach brydferth yma."

Sylw penodol i'r Gymraeg

Yn ogystal â'r cynllun peilot yn Nwyfor, fe wnaeth y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Cymraeg, Jeremy Miles, gyhoeddi ymgynghoriad ar fesurau ychwanegol sydd yn benodol i gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn bennaf. 

Image
rali

Fe fydd yr ymgynghoriad yn sail i 'Gynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg' a bydd yn ceisio sicrhau bod cymunedau Cymraeg yn cael eu cynnal medd y llywodraeth.

Wrth gyhoeddi'r manylion, dywedodd Jeremy Miles: "Rydym yn dymuno i'n cymunedau Cymraeg barhau i fod yn lleoedd sydd ag economi hyfyw, lle y gall pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, fyw a gweithio a lle gall yr iaith a’n diwylliant Cymreig ffynnu.

"Er nad oes atebion hawdd, rwy'n hyderus y bydd yr ymyriadau a gynigir heddiw yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'n hamcan o sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt."

'Moment Arwyddocaol'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dyweddod arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Mae hon yn foment arwyddocaol. Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod ganddi rôl allweddol i'w chwarae i sicrhau y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol barhau i fyw yn ein cymunedau arfordirol a gwledig fel mater o gyfiawnder cymdeithasol.

“Yn benodol, rydym yn rhoi croeso cynnes i’r cadarnhad fod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar y camau angenrheidiol i ddiwygio’r rheoliadau cynllunio ar yr egwyddor y bydd angen hawl cynllunio yn y dyfodol ar unrhyw un sy’n ceisio newid defnydd annedd o gartref cynradd i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Siencyn: “Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, gall y trafodaethau ymarferol ynglŷn â rheoli ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac AirBnBs ddechrau o ddifri.

“Mae hi bellach yn hanfodol bod pawb sydd am weld dyfodol bywiog a chynaliadwy i'n cymunedau, yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Rydym am sicrhau bod y dystiolaeth yn glir o blaid newid.

“Trwy wneud hyn gallwn gydweithio i sicrhau fod cynlluniau’r Llywodraeth yn cynnig yr atebion ymarferol sydd eu hangen yn ein cymunedau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.