Dyn 85 wedi ei daro gan fan a adawodd leoliad y gwrthdrawiad
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 85 oed gael ei daro gan fan a adawodd leoliad y gwrthdrawiad.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn ardal Summerhill House ger Rhodfa Albert yng Nghasnewydd, rhwng 16.00 a 17.00 ddydd Llun 6 Hydref.
Fe gafodd y dyn 85 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau ac mae bellach mewn cyflwr sefydlog.
“Rydym am siarad ag unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd, o fan wen yn mynd i mewn i neu’n gadael Rhodfa Albert rhwng 4pm-5pm,” meddai’r heddlu.
“Os gallwch chi helpu, ffoniwch ni ar 101, gan ddyfynnu 2500319973, neu gallwch anfon neges uniongyrchol atom.”