
Pwysau ar gynllun heddwch Gaza lai na 24 awr ar ôl 'gwawr newydd' Donald Trump
Pwysau ar gynllun heddwch Gaza lai na 24 awr ar ôl 'gwawr newydd' Donald Trump
Lai na phedwar awr ar hugain ers i Donald Trump ddatgan “gwawr newydd yn y Dwyrain Canol” mae cwestiynau a phwysau ar ei gynllun am heddwch i Gaza.
Wedi i ddim ond pedwar o gyrff gwystlon Israelaidd gael eu dychwelyd ddoe, mae fforwm teuluoedd y gwystlon wedi cyhoeddi datganiad beirniadol yn galw am ymateb i hynny.
Mae Israel wedi cau croesfan Rafah, sydd yn hanfodol wrth roi mynediad i gymorth dyngarol, mewn ymateb.
Yn Gaza, mae saith o bobl wedi eu lladd gan luoedd Israel. Yn ôl yr IDF, roedden nhw wedi torri amodau’r cytudeb.
Mae lluniau hefyd wedi dod i’r amlwg o Hamas yn dienyddio pobl maen nhw’n cyhuddo o gydweithio ag Israel - gyda gofid felly am ddiogelwch pobl gyffredin Gaza er bod cadoediad mewn grym.
Yn Ramallah heddiw, prifddinas de facto y Lan Orllewinol, roedd beirniadaeth o’r cynllun heddwch gan Balestiniaid.
Dywedodd y cyn-heddwas Ramadan Sharkawi wrtha’i ei fod e’n teimlo nad yw lleisiau Palestiniaid cyffredin yn cael eu clywed yn y trafodaethau.
“Sut mae modd cael heddwch yn y DwyrainCanol heb ddatrys y pwnc canolog, sef y gwrthdaro rhwng Palestiniaid ac Israeliaid?” gofynnodd.
“Os allan nhw ddatrys hynny, wedyn mae modd cael perthynas dda rhwng gwledydd Arabaidd a gwladwriaeth Israel.
“Ond gyntaf oll, rhaid rhoi cynllun yn ei le ar gyfer datrysiad dwy wladwriaeth.”

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Plaid y Bobl Balesteinaidd, Bassam al-Sahi, bod yn rhaid cosbi Israel am ei gweithredoedd yn Gaza os am sicrhau heddwch.
“Dyw’r cwestiwn ddim i ni fel Palestiniaid ond i’r gymuned ryngwladol: beth maen nhw am ei wneud gyda gwlad sydd wedi bod yn cyflawni hil-laddiad?” gofynnodd.
“Dyw’r Palestiniaid a’r Israeliaid ddim yr un peth fan hyn: y Palestiniaid yw’r dioddefwyr a’r Israeliaid yw’r meddianwyr.”
Er bod sawl un yn Ramallah yn pwyso am wladwriaeth Balesteinaidd ochr yn ochr â gwladwriaeth Israelaidd, gwrthod hynny yn llwyr mae llywodraeth Israel.

Ar ôl i’r gwystlon Israelaidd gael eu rhyddhau ddoe yn gyfnewid am Balestiniaid oedd wedi eu carcharu a’u caethiwo gan Israel, fe siaradais â Yuval Inbar, menyw o Israel sydd wedi dysgu Cymraeg.
Dywedodd wrtha’i ei bod hi’n hapus iawn ac y gallai pobl Israel “ddechrau dysgu i fod yn hapus eto” wedi’r blynyddoedd cythryblus diweddar.
Diwrnod yn ddiweddarach, mae straen eisoes ar yr hapusrwydd hwnnw a’r addewid o heddwch yn y Dwyrain Canol.