Gwrthod caniatâd cynllunio i barc hamdden ger Caernarfon
Mae cais i greu parc gwyliau a hamdden ar gyrion Caernarfon wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd.
Gobaith cwmni Maybrook Investments oedd adeiladu parc gwyliau Gwêl y Fenai ar safle hen ffatri Ferodo.
Byddai'r safle wedi cynnwys 173 o gabanau gwyliau, unedau gwaith a 51 o fflatiau, gyda chyfleusterau hamdden i ymwelwyr.
Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell i'r cais gael ei wrthod, gan nodi 13 o resymau pam nad oedd y datblygiad yn cyrraedd yn nod.
Roedd y rhain yn cynnwys yr effaith ar y Gymraeg, maint y prif adeilad, yr effaith ar fusnesau canol tref, sŵn, bioamrywiaeth a'r effaith ar adeilad rhestredig cyfagos.
Mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio'r awdurdod ddydd Llun, pleidleisiodd wyth aelod yn erbyn y cynllun, gyda thair pleidlais o blaid ag un aelod yn ymatal.
Roedd y datblygwr wedi dadlau y byddai'r datblygiad newydd yn un a fyddai'n adfywio hen safle diwydiannol pan roedd sawl ymgais flaenorol wedi methu.
Llun: DEWIS