Newyddion S4C

Llafur a Phlaid Cymru yn ffurfio 'cytundeb radical' o gydweithio

22/11/2021
PRICE DRAKEFORD

Mae'r blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi cytundeb newydd fydd yn gweld y ddwy blaid yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf.

Fe fydd y pleidiau'n cydweithio dan delerau’r cytundeb, yn hytrach na gweithredu ar sail clymblaid.

Mae mesurau’r cytundeb yn anelu i fynd i’r afael ag adferiad wedi Covid-19, yr hinsawdd, sefyllfa ail gartrefi, a dyfodol darlledu Cymreig medd y pleidiau.

Ond mae mesurau i fynd i’r afael ag amseroedd aros a’r pwysau y mae’r GIG yn ei wynebu yn absennol.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud fod hyn yn “bryderus”, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod yr absenoldeb yn “rhyfeddol”.

'Bargen fydd yn sicrhau newid gwirioneddol' 

Mewn dogfen 10 tudalen gafodd ei chyhoeddi brynhawn Llun, mae'r blaid Lafur a Phlaid Cymru yn amlinellu 46 o feysydd fydd yn cael sylw penodol rhwng nawr a 2023.

Daw’r cytundeb ar ôl i Lywodraeth Lafur Cymru fethu â sicrhau mwyafrif o un sedd yn etholiad y Senedd ym mis Mai, ond digon i sefydlu llywodraeth leiafrifol. 

Ymhlith y mesurau mae rhoi prydau ysgol am ddim i bawb mewn oed cynradd a rhoi gofal plant am ddim i bob plentyn dyflwydd oed.

Image
bwyd
Mae cinio ysgol am ddim i blant cynradd ac ail gartrefi yn cael sylw yn y cytundeb. 

Mae’r pleidiau hefyd yn addo “gweithredu’n radical” i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn ail gartrefi a thai anfforddiadwy.

Mae'r cytundeb yn cynnwys rhoi ystyriaeth i derfyn ar nifer yr ail gartrefi mewn cymunedau.

Mae’r hinsawdd yn cael sylw amlwg, gyda’r pleidiau yn nodi y byddant yn cydweithio tuag at greu cwmni ynni sero net cyhoeddus dros y ddwy flynedd nesaf.

Byddant hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035, sydd cyn y targed presennol o 2050.

'Datganoli dan fygythiad'

Mae’r ddwy blaid yn unfrydol eu barn tuag "fygythiad" Llywodraeth San Steffan tuag at ddatganoli.

Dywed y cytundeb: “Gan fod datganoli o dan fygythiad gan Lywodraeth Geidwadol bresennol y DU, rhaid inni anfon neges glir i San Steffan bod y Senedd yma i aros a bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.”

Fel rhan o gynlluniau i ‘ddiwygio sylfeini Cymru’, byddant yn cefnogi cynlluniau i weld Aelodau’r Senedd yn cynyddu i 80 neu 100.

Mae’r cyfryngau yn cael sylw hefyd, gyda’r cytundeb yn nodi byddant yn cyllido cynlluniau i wella newyddiaduraeth i fynd i’r afael â diffyg gwybodaeth, ac y byddant yn ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

Byddai hyn yn “mynd i’r afael â’n pryderon ynghylch elfennau bregus yn y cyfryngau ar hyn o bryd a’r ymosodiadau ar eu hannibyniaeth”.

A hwythau eisoes wedi cydweithio ar sefydlu’r Prosiect 2050, i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, mae’r ddwy blaid wedi cytuno ar greu Bil Addysg y Gymraeg gyda'r bwriad o gryfhau sefyllfa’r iaith mewn byd addysg.

Image
NS4C
Nid dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru a Llafur gydweithio ers sefydlu datganoli ym Mae Caerdydd.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi croesawu’r ffaith fod y ddwy blaid yn cydweithio gyda’i gilydd, ond mae diffyg sylw i’r Gwasanaeth Iechyd yn un “pryderus”, yn ôl eu harweinydd Jane Dodds.

“Rwyf...yn bryderus nad yw’r cytundeb yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir y GIG ac ambiwlansys.

“Mae'n gwbl hanfodol bod yr holl bleidiau a rhanddeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r argyfwng mewn darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru wrth i ni barhau i wella ar ôl Covid-19.”

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cytundeb yn un “sy’n gweithio i Mark Drakeford ac Adam Price, yn hytrach na Chymru”.

“Mae’r cytundeb yma yn rhyfeddol yn ei habsenoldeb o ddatrysiadau i drwsio’r GIG – sydd ar hyn o bryd yn wynebu ei pherfformiad gwaethaf erioed.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.