'Gwyrth' fod gyrrwr tacsi a oroesodd ymosodiad terfysgol Lerpwl yn fyw

Mae gyrrwr tacsi a oroesodd ymosodiad terfysgol yn Lerpwl ar Sul y Cofio wedi dweud ei bod hi'n "wyrth" ei fod dal yn fyw.
Bu farw Emad al Swealmeen wedi i ddyfais ffrwydro yn nhacsi David Perry.
Llwyddodd Mr Perry ddianc o'r cerbyd cyn i'r ddyfais ffrwydro y tu allan i Ysbyty Merched Lerpwl.
The taxi driver involved in the Liverpool terror attack has thanked the public for their 'amazing generosity'. David Perry said "it's a miracle" he's alive and thanked emergency services and the public for their well wishes. Read the full statement here: https://t.co/OZ7SPITPbv pic.twitter.com/Viv2WONXG5
— Greater Manchester Police (@gmpolice) November 21, 2021
Diolchodd Mr Perry a'i wraig Rachel i'r gwasanaethau brys am eu cymorth gan ddiolch i'r cyhoedd am eu "haelioni anhygoel".
Mae Heddlu Gwrthderfysgaeth Gogledd Orllewin Lloegr yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Darllenwch y stori'n llawn gan Golwg360 yma.