Llafur a Phlaid Cymru 'wedi cytuno' ar gytundeb yn y Senedd
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cytuno ar gytundeb yn y Senedd, yn ôl adroddiadau.
Mae BBC Cymru yn adrodd fod y ddwy blaid wedi cytuno ar gyfres o fesurau.
Yn ôl y BBC, roedd "cefnogaeth gref" i'r cytundeb mewn cyfarfod o bwyllgor gweithredol y blaid Lafur.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r cytundeb gan ddadlau "nad yw'n gweithio i Gymru".
"Sut fydd e'n cael ei ddelifro, dyna'r peth mwya' hanfodol"
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) November 21, 2021
Ymateb cyn Is-gadeirydd Plaid Cymru Nerys Evans i'r cytundeb rhwng y Blaid a'r Llywodraeth Lafur.
Mae disgwyl mwy o fanylion yn ystod y dyddiau nesaf.
Mwy yma ➡️ https://t.co/6d7tGpEtJ0 pic.twitter.com/dr6BBHPe82
Mae cyn Is-gadeirydd Plaid Cymru, Nerys Evans, wedi dweud ei bod yn croesawu'r newyddion ond yn aros am fwy o fanylion.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "I'r Blaid wrth gwrs wedi cael etholiad siomedig ym mis Mai, nawr yn trydydd plaid, yn amlwg o ran trio cael polisïau eitha' radical wedi cael eu gweithredu gan Llywodraeth Cymru ma' hwn i'w groesawu.
"Ond, wrth gwrs ma'r manylder o sut fydd y cytundeb 'ma'n cael ei llywodraethu a sut fydd yn cael ei ddelifro, dyna'r peth mwya' hanfodol."
Mae disgwyl i'r cytundeb gynnwys cynlluniau i addasu'r dreth gyngor ac ehangu cinio ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.
Mae adroddiadau y bydd y cytundeb hefyd yn datgan cefnogaeth i ddatganoli darlledu.
“This is not a deal that works for Wales, it’s a deal that works for Mark Drakeford and Adam Price” - Welsh Conservative spokesperson on Labour-Plaid Cymru agreement. pic.twitter.com/EcDiX4CRnh
— Adrian Masters (@adrianmasters84) November 21, 2021
Mae'r Aelod o'r Senedd Llafur dros etholaeth Caerffili wedi dweud y bydd y cytundeb yn cynnig "sefydlogrwydd cyllideb" i gynlluniau'r llywodraeth.
Mae gan Lafur 30 o seddi yn y Senedd yn dilyn yr etholiad ym mis Mai - union hanner y seddi ar lawr y Siambr.
Key point: The Labour/ Plaid deal covers specific and limited areas. The @WelshGovernment Programme for Government contains additional wider measures that sit outside the agreement. The deal will provide budget stability underpinning the whole government programme. https://t.co/Q5P2Y5lC6W
— Hefin David MS/AS (@hef4caerphilly) November 21, 2021
Drwy gyd-weithio â Phlaid Cymru ar gyfres o bolisïau, fe allai'r blaid fod yn fwy sicr y bydd y ddeddfwriaeth yn derbyn cefnogaeth mwyafrif o aelodau'r Senedd.
Mae disgwyl i'r cytundeb llawn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun os yw aelodau Plaid Cymru yn ei gefnogi.