Manchester United yn diswyddo'r rheolwr Ole Gunnar Solksjaer

Mae clwb pêl-droed Manchester United wedi penderfynu diswyddo ei hyfforddwr Ole Gunnar Solksjaer ar ôl canlyniad siomedig dros y penwythnos.
Yn ôl The Guardian, daw'r penderfyniad yn dilyn cyfarfod rhwng aelodau bwrdd y clwb nos Sadwrn ar ôl colli 4-1 yn erbyn Watford.
Roedd y canlyniad yn golygu bod Solksjaer wedi colli pedwar o'i pum gêm ddiwethaf gan adael Manchester United yn seithfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
Manchester United can confirm that Ole Gunnar Solskjaer has left his role as Manager.
— Manchester United (@ManUtd) November 21, 2021
Thank you for everything, Ole ❤️#MUFC
Cadarnhaodd y clwb fod Solskjaer wedi gadael ei rôl fore Sul gan ddiolch iddo "am bopeth".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans