Llywodraeth y DU yn 'pryderu' dros ddiogelwch y chwaraewr tennis Peng Shuai

Mae Swyddfa Dramor Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod rhaid i Tsieina gynnig "tystiolaeth wiriadwy" bod y chwaraewr tennis Peng Shuai yn ddiogel.
Aeth y fenyw 35 oed ar goll ar ôl iddi honni mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ar 2 Tachwedd ei bod wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda chyn-ddirprwy bennaeth y wlad, Zhang Gaoli.
Yn ddiweddar, mae lluniau a fideo wedi'u rhyddhau gan bapur newydd y Blaid Gomiwnyddol Tsieinïaidd sydd i'w weld yn dangos Peng Shuai yn Beijing.
Mae asiantaeth newyddion AFP hefyd yn adrodd bod llywydd y Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol (IOC) wedi derbyn galwad fideo oddi wrth Shuai.
Er hyn, yn ôl Sky News, mae Llywodraeth y DU dal i 'bryderu' dros ddiogelwch y chwaraewr tenis ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Claude Truong-Ngoc