Cyfres yr Hydref: Cymru'n trechu Awstralia o drwch blewyn
Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm olaf yng Nghyfres yr Hydref ar ôl trechu Awstralia o drwch blewyn nos Sadwrn gyda chic olaf y gêm.
Enillodd Cymru o un pwynt yn unig, gyda'r sgôr terfynol yn 29-28.
Roedd disgyblaeth y ddau dîm yn wael trwy gydol y gystadleuaeth yn Stadiwm y Principality ac am yr ail wythnos yn olynol treuliodd yr ymwelwyr rhan fwyaf o'r gêm gydag 14 dyn.
Awstralia sgoriodd yn gyntaf gan groesi’r llinell gais o fewn tri munud.
Ar ôl cyfnod o ymosod bygythiol gan y Wallabies, fe ddaeth cais cynnar gan yr asgellwr Andrew Kellaway ar ôl cic campus gan Len Ikitau.
Llwyddodd Cymru i ymateb yn syth drwy gic gosb gan y maswr Dan Biggar wrth i Awstralia droseddu o’r ail-ddechrau.
Wynebu 14 dyn
Gyda’r sgôr yn 3-7 ar ôl y chwarter awr cyntaf, cafodd wythwr Awstralia, Rob Valetini ei anfon o’r cae yn dilyn cerdyn coch am dacl uchel yn erbyn Adam Beard.
Fe wnaeth Biggar lwyddo unwaith eto i drosi'r gic cosb ac am yr ail wythnos yn olynol roedd Cymru yn wynebu 14 dyn.
Ymatebodd Awstralia yn dda i’r ergyd trwy gic gosb gan newid y sgôr i fantais o 10-6.
Er fod bygythiad y Wallabies yn dominyddu cyfnodau o'r gêm, roedd eu disgyblaeth yn wael.
Roedd y Wallabies i lawr i 13 dyn ar ôl i'r cefnwr Kurtley Beale dderbyn cerdyn melyn am droseddu yn erbyn Cymru gyda'r dynion mewn coch ond 10 metr o’r llinell gais.
Wrth i Biggar gicio i’r cornel, manteisiodd Cymru yn llawn ac fe groesodd y bachwr Ryan Elias am gais yn dilyn symudiad o’r llinell.
Llwyddodd Biggar gyda'r trosiad gan roi Cymru dri phwynt ar y blaen.
Doedd Cymru ddim ar y blaen yn hir wrth i gic cosb arall O’Connor ddod â’r ymwelwyr yn gyfartal o fewn munudau.
Ar ôl cyfnod o gicio rhwng y ddau dîm, dechreuodd Cymru i roi pwysau ar amddiffyn Awstralia.
Cafodd y pwysau ei droi yn bwyntiau ac fe aeth Cymru i mewn i'r egwyl dri phwynt ar y blaen yn dilyn cic gosb arall gan Biggar.
Ail-hanner llawn cyffro
Sgoriodd Cymru o fewn deng munud i ddechrau’r ail hanner , ond roedd yn gais ansicr am gyfnod.
Mewn ymgais i ryng-gipio’r bêl, roedd hi’n ymddangos bod Nick Tompkins wedi taro'r bêl ymlaen.
Ond penderfynodd y dyfarnwr i ganiatau'r cais gan adael y Wallabies wedi eu rhyfeddu gan y penderfyniad.
Ar ôl 55 munud o chwarae, aeth Cymru i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn i Gareth Thomas am neidio i mewn i ryc yn beryglus.
Gyda niferoedd y ddau dîm nawr yn gyfartal, manteisiodd Awstralia ar y cyfle i ddod o fewn tri phwynt wrth i Nic White sgorio cais gwych ar ôl gwaith arbennig gan olwyr yr ymwelwyr.
Er i Dan Biggar ychwanegu cic gosb arall, ymatebodd Awstralia gyda chais arall gan yr asgellwr Filipo Daugunu gan adael y sgôr yn 26-25 i Gymru gyda llai na deng munud i chwarae.
Ar ôl gêm gyffrous, roedd Awstralia bron a chipio'r fuddugoliaeth wrth i Kurtley Beale drosi cic gosb gyda dim ond dau funud i chwarae.
Ond gyda chic olaf y gêm, fe wnaeth Rhys Priestland, oedd yn ôl yn y garfan am y tro cyntaf ers 2017, sicrhau buddugoliaeth anodd i Gymru.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru yn gorffen Cyfres yr Hydref gyda dwy golled a dwy fuddugoliaeth.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans