Newyddion S4C

Kyle Rittenhouse wedi ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth

The Washington Post 20/11/2021
Kyle Rittenhouse

Mae dyn yn ei arddegau a wnaeth saethu a lladd dau berson yn ystod protest Black Lives Matter yn yr Unol Daleithiau wedi ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Kyle Rittenhouse, 18, deithio i Kenosha, Wisconsin, gydag arfau reiffl AR-15 pan ddechreuodd protestiadau treisgar yn y ddinas ar ôl i ddyn du gael ei saethu gan yr heddlu.

Yn ôl Rittenhouse, aeth yno i amddiffyn busnesau lleol rhag protestwyr a darparu cymorth cyntaf.

Yn ystod yr aflonyddwch yn 2020, fe wnaeth Rittenhouse saethu a lladd Joseph Rosenbaum, 36, ac Anthony Huber, 26, ac anafu un dyn arall.

Yn ôl The Washington Post, penderfynodd y rheithgor yn y llys yn Kenosha bod Rittenhouse yn ddieuog o lofruddiaeth a'i fod wedi saethu'r ddau fel amddiffyniad.

Mae'r achos wedi hollti barn yn y Unol Daleithiau, gan sbarduno nifer o ddadleuon ffyrnig rhwng gwleidyddion ac ymgyrchwyr.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.