Matt Grimes yn arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda’r Elyrch

19/11/2021
matt grimes

Mae Matt Grimes wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda chlwb pêl-droed Abertawe.

Yn gapten y tîm ar hyn o bryd, bydd cytundeb Grimes yn parhau nes 2025. 

Roedd cryn ddyfalu wedi bod ynglŷn â dyfodol Grimes yn dilyn awgrymiadau y gallai symud i Fulham neu Bournemouth dros yr haf. 

Grimes yw’r unig chwaraewr sydd wedi chwarae yn ystod pob munud o gemau’r Bencampwriaeth i’r tîm hyd yma. 

Dywedodd prif hyfforddwr Abertawe Russell Martin fod arwyddo Grimes yn foment “anhygoel” i’r clwb. 

“Mi fysa hi wedi costio arian i ddod o hyd i rywun i gymryd ei le,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod ‘na lawer o ddiddordeb ynddo, ond mae’n bensaer diwylliannol yma.

“Mae’n gyfrifol am yrru gymaint o’r hyn da ni’n ei wneud.” 

Fe allai hyn arwain at y chwaraewr 26 oed yn chwarae i’r Elyrch am o leiaf 10 mlynedd, wedi iddo gyrraedd y clwb o Exeter City yn Ionawr 2015. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.