Newyddion S4C

Cymru’n gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia i gloi Cyfres yr Hydref

20/11/2021
x

Bydd tîm rygbi Cymru’n gobeithio am fuddugoliaeth arall yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn i gloi Cyfres yr Hydref.

Mae'r ymgyrch hyd yn hyn wedi codi pryderon gan rai cefnogwyr Cymru wrth i'r Crysau Cochion ddioddef canlyniadau siomedig yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.

Yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghyfres yr Hydref ar ôl gêm anoddach na'r disgwyl yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn diwethaf, bydd angen digon o ddisgyblaeth wrth wynebu’r tîm o hemisffer y de.

Ond, gyda Awstralia wedi colli eu dwy gêm diwethaf yn Nghyfres yr Hydref yn erbyn yr Alban a Lloegr, bydd dynion Wayne Pivac yn anelu am ganlyniad tebyg yn Stadiwm y Principality, Caerdydd brynhawn dydd Sadwrn.

Image
Wayne Pivac
Bydd yr hyfforddwr, Wayne Pivac, yn gobeithio am fuddugoliaeth i gloi'r gyfres.

Dywedodd prif hyfforddwr Awstralia, David Rennie, yr wythnos hon bod gan y Wallabies dîm cryf yn barod ar gyfer gêm olaf y gyfres.

James Slipper fydd yn camu i esgidiau’r capten, a bydd chwaraewyr profiadol fel James O’Connor yn safle’r maswr a Kurtley Beale yn safle’r cefnwr.

Ond bydd sawl wyneb adnabyddus yn dychwelyd i dîm Cymru gan godi gobeithion y gallai Cymru drechu'r Wallabies.

Mae'r asgellwr Josh Adams, prop Thomas Francis ac wythwr Aaron Wainwright nôl yn y XV cychwynnol ar ôl methu'r gêm yn erbyn Fiji gydag anafiadau. 

Fe fydd hyfforddwyr Pivac hefyd yn defnyddio cyfuniad gwahanol yng nghanol y cae am y pedwerydd tro'r hydref  hwn wrth i Uilisi Halaholo a Nick Tompkins ddechrau. 

Image
x
Bydd Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr yn erbyn Awstralia.

Mae Tomos Williams yn dechrau fel mewnwr ar ôl bod ar y fainc ar gyfer y gêm ddiwethaf tra bod Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr. 

Yn y blaenwyr, bydd Wyn Jones yn dechrau am y tro cyntaf ers y gweir yn erbyn y Crysau Duon tra bo'r chwaraewr ail reng Seb Davies yn y tîm cychwynnol am y tro cyntaf yn y gyfres. 

Ar y fainc, fe fydd y chwaraewr ail reng Ben Carter yn gobeithio chwarae'i gêm gyntaf o'r hydref a bydd Christ Tshiunza yn ceisio ychwanegu at ei gap cyntaf enillodd dros y penwythnos.

Tîm Cymru 

L Williams; Rees-Zammit, Tompkins, Halaholo, Adams; Biggar, T Williams; W Jones, Elias, Francis, Beard, S Davies, Jenkins (c), Basham, Wainwright.

EilyddionDee, G Thomas, Lewis, Carter, Tshiunza, G Davies, Priestland, McNicholl.

Tîm Awstralia

Beale; Kellaway, Len Ikitau, Paisami, Daugunu; O'Connor, White; Slipper (c), Latu, Tupou, Arnold, Rodda, Leota, Samu, Valetini.

Eilyddion: Fainga'a, Bell, Alaalatoa, Skelton, Swinton, McDermott, Foketi, Wright.

Bydd Cymru v Awstralia yn Stadiwm Principality ar ddydd Sadwrn 20 Tachwedd gyda'r gic gyntaf am 17:30.

Yr uchafbwyntiau ar S4C am 20:30.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.