Cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru 'yn agos at ei gyhoeddi'

Mae adroddiadau yn awgrymu y gallai cytundeb newydd rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru gael ei gyhoeddi'n fuan.
Bydd cyrff llywodraethu’r ddwy blaid yn cwrdd dros y penwythnos i benderfynu os byddant yn rhoi sêl bendith i’r cytundeb.
Daeth cyhoeddiad fis Medi fod y ddwy blaid mewn trafodaethau ar ôl i Lafur Cymru fethu â sicrhau mwyafrif yn yr Etholiad fis Mai.
Y gred yw y bydd materion fel diwygio treth y cyngor, gweithredu ar ail gartrefi a diwygiadau i ofal cymdeithasol yn rhan o’r trafodaethau.
Darllenwch y stori’n llawn yma.