Andrew Marr i adael y BBC wedi 21 o flynyddoedd

Bydd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Andrew Marr yn gadael y BBC wedi 21 o flynyddoedd.
Fe gyhoeddodd Marr y bydd yn gadael y sefydliad yn y flwyddyn newydd, gan ddweud ei fod yn "awyddus i gael ei lais yn ôl".
Mae'r darlledwr wedi cyflwyno prif raglen deledu wleidyddol y BBC ar foreau Sul ers 2005.
Dywedodd y bydd yn ymuno â Global yn 2022 i gyflwyno sioeau gwleidyddol a diwylliannol yn ogystal ag ysgrifennu i bapurau newydd, yn ôl The Evening Standard.
Personal announcement. After 21 years, I have decided to move on from the BBC.l leave behind many happy memories and wonderful colleagues. But from the New Year I am moving to Global to write and present political and cultural shows, and to write for newspapers
— Andrew Marr (@AndrewMarr9) November 19, 2021
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener, dywedodd Andrew Marr: "Ar ôl 21 o flynyddoedd, dw i wedi penderfynu symud ymlaen o'r BBC. Dw i'n gadael nifer o atgofion hapus a chydweithwyr arbennig.
“Dw i'n meddwl bod gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus Prydeinig yn wynebu degawd hyd yn oed yn fwy cythryblus, ac fel dw i wedi ei ddweud, dw i'n awyddus i gael fy llais yn ôl."
Darllenwch y stori'n llawn yma.