Cannoedd yn ymgynnull ar risiau'r Senedd
Cannoedd yn ymgynnull ar risiau'r Senedd
Mae cannoedd o bobl ifanc wedi ymgynnull unwaith eto ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd nos Wener, yn dilyn golygfa debyg yn gynharach yn yr wythnos.
Fore dydd Mercher fe welwyd sbwriel a llanast wedi ei adael o flaen yr adeilad, wedi i dyrfa fod yn partïo yno’r noson gynt.
Mae’r lleoliad wedi dod yn gyrchfan boblogaidd i bobl ifanc yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.
Dywedodd Tomos Evans, gohebydd Newyddion S4C oedd ger y Senedd yn gynharach fod rhai cannoedd o bobl yn y lleoliad, ac nad oedd y mwyafrif yn gwisgo mygydau na’n cadw pellter cymdeithasol.
Ychwanegodd fod yr heddlu a swyddogion diogelwch gerllaw.