Dyn yn gwadu llofruddio ei chwaer mewn parc gwyliau

North Wales Live 19/11/2021
Amanda Selby

Mae dyn o Fanceinion wedi gwadu iddo lofruddio ei chwaer 15 oed mewn parc gwyliau yn Sir Conwy ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth Matthew Selby wadu'r cyhuddiad ei fod wedi lladd Amanda Selby ym mharc gwyliau Tŷ Mawr, Towyn mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Plediodd yn ddieuog drwy gyswllt fideo gyda'r llys o Garchar y Berwyn.

Fe fydd yr achos yn erbyn Mr Selby o Ashton-Under Lyme yn cael ei gynnal ar 28 Chwefror 2022 yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.