Newyddion S4C

Galw am Swyddog Cymraeg llawn amser i Undeb Myfyrwyr Caerdydd

19/11/2021

Galw am Swyddog Cymraeg llawn amser i Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Mae myfyrwyr wedi cyhuddo Undeb Myfyrwyr Caerdydd o “fethu â chadw at addewidion” i greu rôl Swyddog Cymraeg llawn amser.

Dair blynedd ers i fyfyrwyr bleidleisio dros gael rôl llawn amser, mae galwadau unwaith eto ar i’r Undeb roi “sylw teg i’r Gymraeg”.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd nad oedd creu rôl ychwanegol o fewn yr Undeb ar gyfer Swyddog Cymraeg llawn amser yn ymarferol.

Dywed yr Undeb hefyd fod y pandemig wedi effeithio ar amserlen adolygiad o roliau'r swyddogion o fewn y sefydliad.

Mae swyddogion llawn amser yn derbyn cyflog ac yn cyflawni eu dyletswyddau yn ystod blwyddyn o saib o'u hastudiaethau.

Ar hyn o bryd, Swyddog Cymraeg rhan amser sydd gan yr Undeb.

Image
Annell Dyfri
Annell Dyfri, Swyddog Cymraeg rhan amser Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Cafodd Annell Dyfri, sydd yn ei thrydedd blwyddyn yn y Brifysgol, ei hethol i’r rôl eleni ac mae’n cyflawni ei dyletswyddau tra’n astudio.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’n gallu bod yn heriol ar adegau felly dyna pam dw i 'di rhoi cynnig mewn i roi Swyddog Cymraeg llawn amser".

Yn ôl Annell, mae cael unigolyn i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn “hanfodol.”

Dywedodd bod problemau’n gallu codi’n aml o ran statws yr iaith, hawliau myfyrwyr i gwblhau asesiadau ac arholiadau yn Gymraeg a pherthynas y Gymdeithas Gymraeg gydag elfennau cymdeithasol yr Undeb hefyd.

'Rhwystredigaeth'

Bydd cyfarfod blynyddol yr Undeb yn cael ei gynnal wythnos nesaf, gyda’r mater hwn yn un o’r cynigion.

Annell sydd yn cyflwyno’r cynnig fel y Swyddog Cymraeg rhan amser presennol.

Dywedodd Annell: "Does dim gweithredu'n digwydd ond gobeithio cydweithio gyda'r Undeb i sicrhau bod 'na benodiad yn cael bod achos ma' gyment o broblemau i fyfyrwyr Cymraeg, falle pethe dyw pobl ddim yn sylwi ar unwaith.

“Rhwystredigaeth yw e’n fwy na dim byd bo ni nôl yn yr un sefyllfa eto."

Yn 2018, pleidleisiodd myfyrwyr Caerdydd dros gael Swyddog Cymraeg llawn amser.

Ond, yn ôl y myfyrwyr, fe wrthododd Bwrdd yr Undeb i greu’r rôl ychwanegol yn 2019.

Image
Deio Owen
Mae Deio Owen yn ei ail flwyddyn ac ar bwyllgor Cymdeithas Gymraeg yr Undeb.

Dywedodd Deio Owen, myfyriwr Cymraeg a Gwleidyddiaeth yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd bod y sefyllfa yn “warthus”.

Ar drothwy penwythnos y Ddawns Ryngolegol yn Aberystwyth, dywedodd Deio bod y diffyg cyswllt rhwng y Gymdeithas Gymraeg yng Nghaerdydd a’r Undeb yn “hunllef”.

Yn ôl Deio, sydd ar bwyllgor y Gymdeithas Gymraeg, mae elfennau cymdeithasol Cymraeg yn cael eu “hynysu” o weddill y brifysgol.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’n achosi gwacter, ac yn ymbellhau’r Gymdeithas Gymraeg rhag Cymdeithas ehangach y brifysgol.

"Dan ni'n teimlo bo na ddim cynrychiolaeth ddigonol o'r gymuned Gymraeg yma yng Nghaerdydd."

'Annheg'

Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe Swyddog Sabothol i’r Gymraeg sy’n aelodau gweithredol o Undeb y Myfyrwyr.

Ac yn ôl y myfyrwyr, mae hynny’n “annheg”.

Dywedodd Deio: "Dan ni hefo Rhyng-gol penwythnos yma yn Aberystwyth a dan ni di gorfod trefnu hynna'n hunain, o weld sut ma Aberystwyth a Bangor yn neud o ma nhw i weld efo lot mwy o drefn yn enwedig wrth cynnal digwyddiada'."

"Mae o'n hunllef mewn ffor' ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Annell ei bod yn gobeithio cydweithio gyda’r Undeb.

"Does dim gweithredu'n digwydd ond gobeithio cydweithio gyda'r Undeb i sicrhau bod na benodiad yn cael bod achos ma gyment o brobleme i fyfyrwyr Cymraeg, falle pethe dyw pobl ddim yn sylwi ar unwaith," meddai.

'Ystod o argymhellion'

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Fe alwodd pleidlais gan fyfyrwyr yn CCB yr Undeb ym mis Tachwedd 2018 am gyflwyno wythfed swyddog sabothol.  Daeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i'r casgliad nad oedd cynyddu maint y Corff Llywodraethu yn ymarferol, ond y byddai'n deg cynnwys Swyddog Iaith Gymraeg fel rhan o'r tîm o saith.

"Cafodd nifer o argymhellion gydag opsiynau oedd yn cynnwys swyddog sabothol Iaith Gymraeg ei roi i fyfyrwyr ym mis Tachwedd 2019, gyda dros 700 o fyfyrwyr yn penderfynu drwy bleidlais ddemocrataidd eu bod yn dymuno parhau â'r strwythur presennol.  Daeth y CCB i'r casgliad hefyd y dylai'r Undeb gynnal adolygiad trylwyr o'r gefnogaeth a chynrychiolaeth o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a fyddai'n digwydd dros y 18 mis i ddilyn."

Ychwanegodd y llefarydd: "Roedd yr adolygiad trylwyr i fod adrodd i'r CCB yn wreiddiol yr wythnos nesaf, ond, mae'r pandemig byd-eang a'r effaith gysylltiedig ar y sefydliad wedi rhwystro'r amserlen hon rhag cael ei gwireddu.

"O ganlyniad, mae amserlen wedi ei haddasu ar gyfer yr adolygiad trylwyr, a gafodd ei gwblhau mewn partneriaeth â'n siaradwyr Cymraeg, wedi ei lunio ac yn cael ei weithredu, i adrodd yn ôl i'r CCB ym mis Tachwedd 2022.  Efallai y bydd yr adroddiad hwn yn cynnig ystod o argymhellion i fyfyrwyr eu hystyried a phenderfynu, gan gynnwys a ddyliad bod swyddogol sabothol i gynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ai peidio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.