Angen 'datrys anghydfod trefniadau Brexit' medd Taoiseach Iwerddon

Mae Taoiseach Iwerddon, Micheál Martin wedi dweud fod angen i'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU ddatrys yr anghydfod sydd yn parhau dros drefniadau masnach Gogledd Iwerddon yn dilyn Brexit.
Roedd Mr Martin yn siarad cyn cyfarfod o Gyngor Prydain-Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Mae trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn parhau, gyda disgwyl i weinidog Brexit Llywodraeth y DU David Frost gyfarfod gydag is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maros Sefcovic hefyd ddydd Gwener.
Y disgwyl yw y bydd protocol Gogledd Iwerddon a'r cytundeb masnach ar gyfer y dalaith yn cael ei drafod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.