Rhagflas o gemau ddydd Mercher yn y Cymru Premier JD
Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a Phen-y-bont wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, a gyda dim ond dwy o rownd o gemau ar ôl tan yr hollt mae yna bum clwb yn cystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît.
Byddai dau bwynt o’w dwy gêm nesaf yn ddigon i Gaernarfon (4ydd) a Bae Colwyn (5ed) hawlio eu lle yn yr hanner uchaf, tra bod dipyn o waith i’w wneud gan Y Barri (6ed), Met Caerdydd (7fed) a Hwlffordd (8fed).
Cafodd Met Caerdydd a Hwlffordd gêm gyfartal 0-0 nos Fawrth, cyn i’r Barri deithio i Lansawel ddydd Mercher.
Llansawel (10fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Mercher – 12:30
Mae rhediad rhagorol Y Barri’n parhau, gyda’r Dreigiau heb golli mewn 12 gêm ym mhob cystadleuaeth gan ildio dim ond pedair gôl yn ystod y cyfnod hwnnw (naw llechen lân).
Mae tîm Steve Jenkins felly mewn safle addawol i sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21, a byddai pum pwynt o’u tair gêm olaf yn ddigon i warantu hynny.
Gemau tan yr hollt:
Llansawel: BARR (c), HWL (oc) ͏
Y Barri: LLS (oc), CEI (oc), LLI (c)
Ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (cyfartal 3, colli 7), mae Llansawel yn sicr o orffen yn yr hanner isaf am yr ail dymor o’r bron.
Ond fe wnaeth y Cochion guro’r Barri ar Barc Jenner ym mis Hydref diolch i foli felys Kian Jenkins (Barr 0-1 Lls).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖❌➖❌➖
Y Barri: ✅➖✅➖✅
Y Bala (9fed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Mercher – 12:30
Mae’r Bala wedi llithro’n araf bach i lawr tua’r gwaelodion, a bellach dim ond dau bwynt sydd rhyngddyn nhw a’r Fflint (11eg) yn safleoedd y cwymp.
Dyw’r Bala heb chwarae ers bron i bedair wythnos, pan gollon nhw gartref o 2-0 yn y glaw trwm yn erbyn Hwlffordd, ac ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (vs Llanelli) mae’n ymddangos mae yn y Chwech Isaf y bydd tîm Steve Fisher yn cystadlu yn ail ran y tymor.
Gemau tan yr hollt:
Y Bala: CFON (c), YSN (oc), FFL (oc)
Caernarfon: BALA (oc), CEI (c) ͏
Os na fydd Caernarfon yn ofalus, yna’r Chwech Isaf fydd eu tynged hwythau, gan i’r Cofis fethu ag ennill dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf.
Gyda Chei Connah i ddod nesaf i Gaernarfon, clwb sydd ar dân, bydd Richard Davies yn teimlo ei bod hi’n angenrheidiol i’r Caneris gael canlyniad cadarnhaol yn erbyn Y Bala os am osgoi diweddglo nerfus i ran gynta’r tymor.
Y cysur amlwg i Gaernarfon yw eu record diweddar da yn erbyn Y Bala, gan nad yw’r Cofis wedi colli yn eu naw gêm flaenorol yn erbyn Hogiau’r Llyn, gan ennill y bedair ornest ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌❌➖❌
Caernarfon: ͏➖➖❌➖❌
Cei Connah (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Mercher – 14:30
Yn dilyn rhediad ardderchog o chwe buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, mae Cei Connah wedi codi i’r ail safle, saith pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd.
Mae’r bwlch dal yn eithaf sylweddol rhwng y ddau dîm, ond byddai buddugoliaeth arall i’r Nomadiaid yn rhoi pwysau go iawn ar y pencampwyr.
Gemau tan yr hollt:
Cei Connah: YSN (c), BARR (c) CFON (oc) ͏
Y Seintiau Newydd: CEI (oc), BALA (c), BAE (c)
Mae Cei Connah wedi cipio 28 pwynt allan o’r 30 posib yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf gyda Harry Franklin yn serennu i’r Nomadiaid, ac mae’r Gwyddel eisoes wedi cyfrannu at 20 o goliau cynghrair y tymor hwn (sgorio 11, creu 9).
Ymosodwr y Seintiau, Jordan Williams yw’r unig chwaraewr i gyfrannu at fwy o goliau’n y gynghrair y tymor hwn (sgorio 19, creu 4), ac os bydd Williams yn parhau i danio o flaen gôl, yna fe all fod y chwaraewr cyntaf i sgorio 30 o goliau cynghrair ers i Rhys Griffiths wneud hynny yn 2009/10.
Sgoriodd Harry Franklin i Gei Connah yn erbyn y Seintiau yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2023/24, ond mae cewri Croesoswallt wedi ennill pum gêm yn olynol yn erbyn y Nomadiaid ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Llun: CBDC