Cynllun newydd i drin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i drin a chefnogi pobl sydd â niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol (ARBD).
Daw’r cyhoeddiad gan Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru yn ystod wythnos ymwybyddiaeth o alcohol.
Dywed y llywodraeth mai ei nod hirdymor yw sefydlu gwasanaethau ARBD pwrpasol ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru.
Mae ARBD yn derm sydd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sbectrwm o gyflyrau sydd wedi eu hachosi gan newidiadau i’r ymennydd o achos gorddefnydd o alcohol dros amser.
Bwriad y fframwaith yw rhoi canllawiau i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar sut y gallant gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio.
Mae’r llywodraeth yn dweud y bydd cymorth sefydliadau gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn “hanfodol” er mwyn cynnig gofal i unigolion sydd ag ARBD.
Cafodd y fframwaith ei datblygu ar y cyd â chorff Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr yn y maes.
'Codi ymwybyddiaeth'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Mae cefnogi pobl sydd â niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol yn rhywbeth sy’n gofyn am ymlyniad gan ystod eang o sefydliadau.
“Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth ar draws cymunedau a sefydliadau i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau a’u bod yn cael eu trin mewn modd amserol.
“Mae’r fframwaith yn darparu canllawiau a dull cydgysylltiedig ar gyfer yr holl bobl sy’n ymwneud â helpu pobl sydd ag ARBD.
“Hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r arbenigwyr lu yn y maes am eu mewnbwn i’r darn hwn o waith.”
Dywedodd Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Fframwaith Trin Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol yng Nghymru yn fawr iawn.
“Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis annigonol o’r cyflwr hwn yn y DU hyd yma, nad yw’n gyflwr dirywiol os bydd y claf yn rhoi’r gorau i yfed, a chyda’r cymorth priodol, y gall y rhan fwyaf o unigolion gyrraedd rhyw lefel o wellhad.”
Mae cyhoeddiad y fframwaith yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach yn y flwyddyn.