
Pryfed ar y fwydlen yn 'beth cyffredin' mewn 20 mlynedd

Pryfed ar y fwydlen yn 'beth cyffredin' mewn 20 mlynedd
Mae posibilrwydd y gallai pryfed fod ar ein bwydlenni yn y dyfodol yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth.
Wrth glywed am bobl yn bwyta pryfed mae’n bosib y byddwch yn meddwl am un o heriau y ‘bushtucker trial’ ar raglen ‘I’m a Celebrity…’ sy’n dechrau y penwythnos hwn mewn cyfres newydd yng Nghymru.
Ond yn ôl gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth, gallai cael pryfed yn rhan o'n bwyd fod "yn beth cyffredin" mewn ugain mlynedd.
Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn edrych ar bryfed fel rhan o borthiant i anifeiliaid yn ogystal â ffynhonnell fwyd i bobl.
Mae'r gwaith yn rhan o ValuSect, prosiect sy’n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.
Mae pryfed yn rhan gyffredin o fwydlen bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, fel Mecsico, Tseina a Ghana.
Maen nhw’n cynnig ffynhonnell brotein sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd na llawer o fwydydd eraill, a gallent helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Tra’n edrych ar focs o dros 20,000 o gynrhon melyn byw dywedodd Teresa Davies, technegydd labordy yn y brifysgol, y gallai pryfed fod yn gynhwysyn mewn ystod o fwydydd gwahanol.
Dywedodd: “Chi’n gallu gwneud cacs neu energy bars, smoothies a pethau i gael lot o protein.
"Maen nhw’n tua 70% protein felly maen nhw’n ffantastic. Byrgyr neu myffin hefyd - does dim lot o flas da nhw sai’n meddwl felly ti’n gallu adio rhywbeth arall i roi blas i’r myffin”
Yn wahanol i ‘I’m a Celebrity…’, dyw’r ymchwil ddim yn ymwneud â’r posibilrwydd o fwyta pryfed cyfan, amrwd.
Mae'r gwyddonwyr yn Aberystwyth yn astudio gwerth maethol pryfed wedi'u prosesu - sy'n cael eu sychu a'u malu i greu math o flawd i'w ddefnyddio mewn ryseitiau.
Yn ôl yr Athro Alison Kingston-Smith sy’n arwain y prosiect ymchwil, gall pryfed fod yn ffynhonnell bwysig o brotein cynaliadwy.
Dywedodd: “Maen nhw'n llawn protein ac asidau brasterog sy'n dda iawn i ni. Mae'n ffynhonnell dda iawn o fwyd maethol.
“Yr hyn ry’n ni am ei wneud yw deall sut y gallwn fwydo'r pryfed i'w gwneud yr ansawdd gorau y gallant fod i ddarparu'r ansawdd maethol sydd ei angen arnom ar gyfer bwyd anifeiliaid a bwyd i bobl," ychwanegodd.
“Byddai’r defnydd mwyaf arferol mewn rhywbeth fel bar ynni. Gallem eu defnyddio mewn nwyddau wedi'u pobi. Gallem hefyd ei ddefnyddio fel ychwanegiadau protein ar gyfer cynhyrchionfel iogwrt, hufen iâ, y mathau hynny o bethau. Dyna'r defnydd mwyaf tebygol.”
Mae ValuSect, sy’n sefyll am ‘Valuable Insects’, yn gonsortiwm o bartneriaid a gydlynir gan Brifysgol Thomas More yng Ngwlad Belg ac a gefnogir gan grant €2.08m gan raglen INTERREG Gogledd-orllewin Ewrop.
Mae'r grant ychwanegol yn ymestyn y rhwydwaith ymchwil ac yn cynnwys partneriaid prosiect newydd yn yr Almaen.

Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi bod yn astudio cricedi, ceiliogod y rhedyn a chynrhon melyn fel bwyd dynol.
Bydd y grant newydd yn ychwanegu pryfyn newydd, y ‘black soldier fly’ (Hermetia Illucens) at y fwydlen, ac yn ymestyn y gwaith i edrych ar ddefnyddio cynhyrchion pryfed mewn bwyd anifeiliaid.
Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu rhannu â busnesau bwyd ac amaeth ledled gogledd Ewrop.
Mae arolygon barn yn awgrymu bod tua 30% o bobl yr Undeb Ewropeaidd yn barod i fwyta bwyd sy’n cynnwys pryfed.
Nod ValuSect yw cynyddu'r ganran hwn trwy wella ansawdd cynhyrchu a phrosesu pryfed, cynnal profion defnyddwyr, a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae rhai cynhwysion sy'n seiliedig ar bryfed eisoes ar gael ac mae'r Athro Kingston-Smith yn credu bod y dewis o fwydydd yn debygol o gynyddu dros y degawdau nesaf.
Dywedodd yr Athro Kingston-Smith: “Fyddech chi ddim yn cuddio'r ffaith bod (bwyd) yn cynnwys protein pryfed - ond rwy'n credu mai’r syniad o fwyta locust gyfan sy'n llai apelgar na rhywbeth sydd mewn cynnyrch lle mae'r ymddangosiad a’r teimlad yn wahanol.
“Os edrychwn ni ar y ffordd y mae'r defnydd o fwyd wedi newid dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, ry’n ni'n derbyn llawer mwy o wahanol fathau o fwyd, gwahanol flasau nawr," ychwanegodd.
"Ry’n ni am gofleidio pob diwylliant gwahanol yn ein chwaeth bwyd, a dw i’n credu mai pryfed yw'r cam nesaf yn hynny o beth.
“Mewn 20 mlynedd arall bydd yn beth cyffredin mynd i gael eich pryfed ar fwydlen a la carte!”