Caerdydd: Bwrw ymlaen â chynlluniau i godi pris trwyddedau parcio cerbydau mawr

SUV

Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i godi pris uwch am drwyddedau parcio i gerbydau mawr.

Daw'r penderfyniad er mwyn ceisio annog pobl i brynu ceir llai. 

Mae'n golygu mai Caerdydd ydy'r ddinas gyntaf yn y DU i gyflwyno costau parcio uwch ar gyfer cerbydau mawr, gan gynnwys SUVs.

Dywedodd yr aelod o'r cabinet Dan De’Ath wrth gyfarfod o gyngor y ddinas fod rhannau o Gaerdydd bellach yn “hollol orlawn o geir”, gyda rhai cerbydau yn rhwystro cerddwyr ar balmentydd.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gwblhau ymgynghoriad a oedd yn awgrymu fod 66% o'r cyfranogwyr yn cytuno y dylai cerbydau mwy dalu mwy am drwyddedau parcio.

Fe ddywedodd trigolion fod y diffyg lle i barcio yng Nghaerdydd yn bennaf oherwydd fod cerbydau mwy yn cymryd mwy o le i barcio. 

Dywedodd adroddiad y cyngor: “Yn gyffredinol, mae corff cynyddol o dystiolaeth yn cefnogi cyflwyno gordaliadau ar gyfer cerbydau o’r fath er mwyn annog pobl i beidio â’u defnyddio.”

Mae Paris eisoes wedi treblu ffioedd parcio ar gyfer ceir sy'n pwyso mwy na 1.6 tunnell.

Mae'r cynllun parcio newydd ar gyfer Caerdydd yn edrych i greu dau barth parcio strategol newydd o'r enw yr Ardal Ganolog a'r Ardal Ymylol.

Mae'r Ardal Ganolog wedi'i ffinio'n fras i'r gogledd ger yr A48, i'r dwyrain ger Afon Rhymni, i'r de ger Bae Caerdydd ac i'r gorllewin ger Afon Elái.

Mae'r Ardal Ymylol ym mhobman arall yn y brifddinas.

Image
Ardal Ganolog
Map yn dangos yr Adral Ganolog a'r Ardal Ymylol

Dywedodd Andrew RT Davies, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ganol De Cymru a chyn arweinydd y blaid yng Nghymru, ei fod yn gwrthwynebu y cynigion.

“Dyma frwydr ddiweddaraf Llafur yn eu rhyfel yn erbyn modurwyr, yn dilyn y polisi 20mya," meddai.

“Efallai y bydd yr ymgyrchwyr yn meddwl y gallwn ni feicio i bobman ond nid dyna’r realiti i’r rhai ohonom sy’n byw y tu allan i ganolfannau dinesig.

“Mae’r cynigion diweddaraf hyn yn dangos bod y dosbarth gwleidyddol allan o gysylltiad gyda’r cyhoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.