Cwest yn clywed manylion am achos marwolaeth y cyn-focsiwr Ricky Hatton

Ricky Hatton

Mae cwest wedi clywed fod cyn-bencampwr bocsio’r byd Ricky Hatton wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gartref gan ei reolwr.

Cafodd Mr Hatton, oedd yn 46 oed, ei ddarganfod gan Paul Speak ar fore Sul 14 Medi yn ei dŷ yn Hyde ym Manceinion. 

Yn ystod y gwrandawiad yn Llys Crwner Stockport ddydd Iau, dywedodd Alison Mutch, Uwch Grwner De Manceinion fod seren y byd bocsio wedi marw o ganlyniad i grogi.

Clywodd y llys fanylion am ddarganfod corff Mr Hatton mewn tystiolaeth gan swyddog crwner yr heddlu Alison Catlow.

Dywedodd wrth y llys fod Ricky Hatton wedi’i weld ddiwethaf gan ei deulu ar 12 Medi, gan ymddangos fel ei fod mewn hwyliau “da” ar y pryd.

Ond y diwrnod wedyn fe fethodd a mynd i ddigwyddiad hyrwyddo fel yr oedd disgwyl iddo wneud.

Cyrhaeddodd ei reolwr, Mr Speak, ei gartref i’w gludo i Faes Awyr Manceinion i ddal awyren i Dubai ar fore Medi 14.

Daeth o hyd i gorff Mr Hatton yno yn ddiymadferth.

Dywedodd Ms Mutch wrth y gwrandawiad: “Rhoddir crogi fel achos cychwynnol ei farwolaeth.”

Cafodd y cwest ei ohirio ohirio tan 20 Mawrth y flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.