Dyn o Wrecsam o flaen llys wedi ei gyhuddo o gynorthwyo hunanladdiadau
Mae dyn 33 oed o Wrecsam wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o bedwar achos o annog neu gynorthwyo hunanladdiad.
Fe wnaeth Miles Cross o Lys Nantgarw ymddangos o flaen ynadon y ddinas mewn cysylltiad â’r honiadau o ddarparu cemegyn a fyddai yn cynorthwyo gyda hunanladdiad.
Fe gafodd Cross, oedd yn gwisgo crys gwyn a siwt a thei du, ei ryddhau ar fechnïaeth amodol i ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar 14 Tachwedd.
Dywedodd y barnwr sirol Gwyn Jones na ddylai feddu ar ddyfeisiau cyfathrebu trydanol heb gofrestru manylion gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gyntaf.
Ni ddylai chwaith fynd ar fforymau neu wefannau sydd yn ymwneud â hunanladdiad na meddu ar ddeunyddiau all gynorthwyo hunanladdiadau, meddai.
Cafodd Mr Cross ei gyhuddo ddydd Gwener 12 Medi o bedwar cyhuddiad o weithredu yn fwriadol mewn modd a allai annog neu gynorthwyo hunanladdiad rhywun arall, yn groes i Adran 2 (1) o Ddeddf Hunanladdiad 1961.
Dim ond un o’r pedwar dioddefwr yn yr achos y mae modd eu henwi, meddai gorchymyn gan y llys.
Bu farw Shubhreet Singh, 26 oed, yn Leeds, ond mae’r tri arall yn fyw.
Dywedodd Malcolm McHaffie, pennaeth Adran Troseddau Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Rydym wedi penderfynu erlyn Miles Cross gyda phedair trosedd o annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn dilyn ymchwiliad heddlu i fusnes sy'n gwerthu sylwedd drwy fforwm ar-lein.
“Mae ein herlynwyr wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth i ddod â'r achos i'r llys a bod achos troseddol o fudd i’r cyhoedd.
“Rydym wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt gynnal eu hymchwiliad.”