Cynlluniau newydd i garcharu’r rhai sy’n dwyn cŵn am bum mlynedd
Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi cyhoeddi trosedd newydd ddydd Iau fyddai’n gweld y rhai sy’n dwyn cŵn yn wynebu dedfrydau llymach.
Cafodd y drosedd cipio cŵn ei gyhoeddi’n gyntaf ym mis Medi, ac fe fydd yn cael ei ychwanegu i’r Bil Anifeiliaid Anwes sy’n cael ei graffu yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd.
Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson, sydd ganddo gi ei hun o’r enw Dilyn, eisoes wedi addo cyflwyno goblygiadau llymach i droseddwyr.
Dan y cynlluniau, fe allai y rhai sy’n dwyn ci anwes wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar os yn euog am gipio.
Bydd modd i farnwyr gyflwyno cosbau a dedfrydau sydd wedi eu targedu’n well, gan roi ystyriaeth i loes y perchennog a’r ci, meddai'r Mirror.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau fod cynnydd mewn achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig, gyda mwy na 2,000 achos yn cael eu hadrodd i’r heddlu yn 2020.
Darllenwch y stori’n llawn yma.