Newyddion S4C

'Ti'n cario mlaen achos ti'n gorfod': Rhoi genedigaeth bedwar mis yn gynnar

17/11/2021

'Ti'n cario mlaen achos ti'n gorfod': Rhoi genedigaeth bedwar mis yn gynnar

Mae mam i ferch gafodd ei geni bedwar mis yn gynnar wedi dweud wrth Newyddion S4C fod y profiad wedi cael effaith hirdymor arni.

Roedd Bella, merch Hanna Owen, yn pwyso un pwys ac un owns pan gafodd ei geni yn 2017.

Fe dreuliodd bron i bedwar mis mewn gwahanol ysbytai lle gafodd driniaeth i achub ei bywyd.

Hyd heddiw, dyw’r fam 23 oed o Fethesda “ddim yn gwybod sut wnaeth hi ymdopi” hefo’r profiad.

Image
S4C
Roedd Bella yn pwyso un pwys ac un owns pan gafodd ei geni yn 2017.

Fe siaradodd Hanna gyda Newyddion S4C ar ddiwrnod codi ymwybyddiaeth babanod cynamserol.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae oddeutu 60,000 o fabis yn cael eu geni yn gynnar yn y Deyrnas Unedig pob blwyddyn.

Yn fyd-eang, dyma sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau ymysg plant o dan bump oed.

A hithau’n 25 wythnos yn feichiog ar y pryd, roedd Hanna yn siŵr ei bod wedi colli ei babi pan ddechreuodd waedu’n drwm.

Yn ystod y cyfnod wnaeth ddilyn, cafodd lawdriniaeth cesaraidd brys yn Ysbyty Gwynedd, cyn iddi hi a Bella gael eu cludo i Ysbyty Merched Lerpwl.

“Dwi’m yn cofio llawar o’r noson,” meddai Hanna.

“Gafodd hi ei geni am saith o’r gloch drwy emergency c-section, ac wedyn nath hi fynd i Liverpool Women’s Hospital.

“ Oedd hi’n Lerpwl am sair wythnos, Glan Clwyd wedyn am dair wythnos ac wedyn ym Mangor am dri mis, felly oedd hi yn yr ysbyty am bedwar mis efo’i gilydd.”

Yn ystod ei chyfnod yn Lerpwl, fe wnaeth Bella ddioddef o ddau waedlif yr ymennydd.

Ar ôl y cyntaf, fe wnaeth y meddygon rybuddio y gallai Bella fod yn anabl o ganlyniad.

Ar ôl yr ail, dywedodd Hanna “nad oedd hi’n poeni os fasa hi yn anabl, o’n i jest isio hi fyw ar y pwynt yna”.

“Dwi’m yn gwybod sut wnes i gôpio; ti’n cario ymlaen achos ti’n gorfod,” meddai Hanna.

“Mae’n rhaid i chdi fod yn gryf achos mae’r teulu i gyd yn cael eu heffeithio.

“Mae o fel domino effect, os faswn i’n torri lawr, fasa mam a dad yn torri lawr.

“Oedd o’n amsar anodd.”

Erbyn hyn mae Bella yn bedair oed ac yn iach. Hyd yn hyn, dydy hi heb wynebu problemau gyda’i hiechyd, ac mae Hanna wedi ei disgrifio fel “gwyrth”.

Roedd yr holl brofiad yn agoriad llygad enfawr i Hanna, sy’n dweud nad oedd hi “erioed wedi clywed am fabis yn cael eu geni mor fuan” cyn geni Bella.

Image
S4C
Hanna Owen, a'i merch bella yn bedair oed. 

“Fasa Bella na fi ddim yma heb y doctoriaid oedd yna'r noson yna, a’r ffaith eu bod nhw wedi gallu cadw hi’n fyw am mor hir.

“Mae’n rhaid i chdi fod yn berson arbennig i neud hynna. Faswn i methu gweithio mewn rhywle fel’na.

“Faswn i’n gweld o’n ormod. Mae’r gwaith mae’r doctoriaid a’r nyrsys yn ei neud yn amazing.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.