Bomiwr tacsi yn Lerpwl wedi prynu deunyddiau i greu bom 'ers misoedd'

Fe wnaeth y dyn a ffrwydrodd fom mewn tacsi yn Lerpwl brynu deunyddiau i wneud bom cartref mor bell yn ôl â mis Ebrill, yn ôl yr heddlu sy’n ymchwilio i’r digwyddiad.
Digwyddodd yr ymosodiad ger ysbyty yn Lerpwl ychydig cyn 11:00 fore dydd Sul.
Bu farw’r bomiwr, Emad Al Swealmeen, 32 oed, yn dilyn y ffrwydriad.
Roedd yn enedigol o Iran, ac yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Russ Jackson o Heddlu Manceinion, roedd Al Swealmeen wedi rhentu safle yn Lerpwl ers rhai misoedd er mwyn cynllunio’r ymosodiad.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl fod y darlun o sut aeth ati i brynu’r deunyddiau ar gyfer y ddyfais yn un “cymhleth” hyd yma.
Darllenwch y stori’n llawn ar wefan Golwg360 yma.