Pryder am farwolaethau yn dilyn llifogydd yng Nghanada

Mae o leiaf un person wedi marw, a rhagor ar goll, ar ôl i law trwm achosi llifogydd a thirlithriadau yng Ngorllewin Canada.
Fe gadarnhaodd heddlu'r wlad bod un fenyw wedi marw ddydd Mawrth yn dilyn tirlithriadau mwd yn rhanbarth British Colombia.
Mae prif ffyrdd a rheilffyrdd o amgylch Vancouver wedi gorfod cau yn ogystal â'r porthladd yno.
Yn ôl AlJazeera, dywedodd gweithlu Dinas Vancouver a Canada bod tua 275 o bobl, gan gynnwys 50 o blant, wedi eu dal rhwng dau dirlithriad dros nos.
Mae cannoedd wedi eu hachub gan hofrenyddion.
Darllenwch ragor yma.
Llun: AFP / CITY OF ABBOTSFORD drwy Wotchit