Dyn 18 oed yn cyfaddef llofruddio ei fam yn Sir Ddinbych

05/02/2026
angela shellis.jpg

Mae dyn 18 oed wedi cyfaddef llofruddio ei fam mewn tref glan môr yng ngogledd Cymru.

Cafwyd hyd i gorff Angela Shellis, 45 oed, yn farw ym Mhrestatyn ym mis Hydref y llynedd.

Fe blediodd Tristan Roberts, o Coniston Drive, Prestatyn, yn euog i'r cyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore Iau, ar ôl i adroddiad seiciatrig gael ei drafod gydag ef gan ei dîm cyfreithiol.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth Roberts: "Dim ond un ddedfryd all fod am y drosedd o lofruddiaeth.

"Bydd y ffaith eich bod bellach wedi cyfaddef hynny yn cael ei adlewyrchu yn y ddedfryd y byddaf yn ei gosod."

Fe fydd Roberts yn cael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad ar 25 Mawrth.

Mae cwest i achos marwolaeth Ms Shellis eisoes wedi clywed fod y cyn-gynorthwyydd dysgu, wedi dioddef trawma difrifol i'w phen pan fu farw.

Fe gafodd archwiliad post-mortem ei gynnal gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, mewn ysbyty yn Lerpwl, ac fe ddywedodd y crwner ar gyfer y gogledd-ddwyrain, John Gittins fod Ms Shellis wedi cael ei darganfod yn farw yng ngwarchodfa natur Prestatyn ar 24 Hydref.

Cafodd Ms Shellis ei disgrifio mewn teyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol fel dynes "garedig a hyfryd" ac "enaid hardd".

Ni chafodd yr union fanylion am yr hyn ddigwyddodd iddi eu crybwyll yn ystod y gwrandawiad byr yn yr Wyddgrug ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.