Cyn-arweinydd cyngor sir yn Llundain yw arweinydd Reform UK yng Nghymru

Cyn-arweinydd cyngor sir yn Llundain yw arweinydd Reform UK yng Nghymru

Mae Reform UK wedi cyhoeddi mai cyn-arweinydd cyngor sir yn Llundain, Daniel Thomas, yw arweinydd y blaid yng Nghymru ar gyfer etholiadau’r Senedd eleni.

Mewn cynhadledd yng Nghasnewydd ddydd Iau, fe wnaeth arweinydd y blaid yn San Steffan, Nigel Farage, gyhoeddi mai Mr Thomas sy'n gyn-arweinydd Cyngor Barnet yn Llundain, fydd yn arwain y blaid yng Nghymru.

Dywedodd: “Cefais fy ngeni a’m magu yng nghymoedd Cymru, ble wnaeth fe nheulu fyw am genedlaethau. Roedd fy nhad-cu yn gweithio yn y pyllau, a’i dad cyn e."

Yn ei araith, dywedodd Mr Thomas ei fod yn dychwelyd i Gymru ar ôl gadael oherwydd prinder swyddi "o safon".

“Doedd y swyddi gyda chyflogau da a’r gyrfaoedd llewyrchus ddim yno. Felly fe wnes i adael er mwyn adeiladu gyrfa lwyddiannus yn y gwasanaethau ariannol yn Llundain, cyn gwasanaethu yn fy nghymuned newydd fel cynghorydd ac arweinydd cyngor.

“Ar ôl 27 mlynedd, rydw i adref yn magu dau fachgen ifanc yn y Cymoedd fel eu bod yn gallu mwynhau cefn gwlad Cymreig, fel y gwnes i fel plentyn. Rydw i wedi dychwelyd i le dwi’n perthyn.”

Fe wnaeth Mr Thomas hefyd gyfeirio at “broblemau” achoswyd gan dai amlfeddiannaeth (houses in multiple occupation), siopau barbwr a busnesau glanhau ceir, gan honni eu bod “yng nghanol menter masnachu pobl”.

Ychwanegodd: “Rydym yn brwydro i ennill, brwydro am bob pleidlais oherwydd dyma’r cyfle olaf i Gymru.

“Rydym ar drobwynt. Unai mae’n rhaid i ni foddhau gyda phedair blynedd arall o’r un peth, neu mae angen torri’r mowld, dechrau eto a gwireddu ein potensial. Mae Cymru wedi torri. Mae Cymru angen Reform.”

Yn y gynhadledd, fe wnaeth Mr Farage hefyd gadarnhau bod yr Aelod Senedd ym Mae Caerdydd sy'n cynrychioli etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ar hyn o bryd, wedi ymuno â’r blaid.

Fe gafodd James Evans ei ddiarddel gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Bae, Darren Millar, fis diwethaf.

James Evans yw ail Aelod o'r Senedd y Ceidwadwyr i ymuno â phlaid Reform, ar ôl i Laura Anne Jones ymuno yn ystod yr haf.

Ymateb y pleidiau

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, mai gwasanaethu Farage fel arweinydd y blaid yn San Steffan fydd prif swyddogaeth Mr Thomas.

"Bydd y cyhoeddiad am ddirprwy Farage yng Nghymru ddim yn newid unrhyw beth ym meddyliau pobl Cymru. 

"Maen nhw'n gwybod fod Reform yn wan. Yn wan ar atebion, yn wan ar syniadau, ac yn wan ar sefyll i fyny dros Gymru."

Ychwanegodd: "Dyw dau gyn-Geidwadwr arall yn symud i Reform UK ddim yn syndod i bobl Cymru. Nawr, does dim amheuaeth mai cyfres o Geidwadwyr sydd wedi methu ac yn chwilio am gartref gwleidyddol newydd yw Reform UK."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mae Nigel Farage yn dweud nad oes Ceidwadwyr ar ôl yng Nghymru – ond mae hynny am fod pob un ohonyn nhw wedi neidio’r llong i Reform UK i achub eu croen eu hunain, gyda’r AS James Evans y diweddaraf.

“Ac yn awr mae gennym ddyn a oedd yn gynghorydd yn Llundain tan ddau fis yn ôl yn dweud wrth Gymru beth sydd ei angen arni.

"Yn y pen draw, mae'n ddibwys pwy yw arweinydd Reform yng Nghymru. Mi fydden nhw'n byped i Farage, yn gwneud ei waith dros San Steffan ac yn tawelu lleisiau pobl Cymru."

Galw am isetholiad

Wrth ymateb i benderfyniad James Evans i ymuno â Reform, dywedodd Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Llai na blwyddyn yn ôl, dywedodd James Evans wrth y wlad fod trosglwyddo i Reform heb fod yn atebol i etholwyr yn weithred ddi-egwyddor. 

"Nawr, mae wedi gwneud yr union beth ei hun.

“Os yw’n credu o ddifrif yn yr hyn a ddywedodd bryd hynny, dim ond un cam sydd ar gael iddo nawr. 

"Dylai ymddiswyddo o’i sedd a galw is-etholiad, fel y gall yr etholwyr benderfynu a ydyn nhw eisiau gwleidydd Reform i’w cynrychioli.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.