Chwe Gwlad: Rees-Zammit yn gefnwr wrth i Tandy enwi tîm Cymru i herio Lloegr
Fe fydd Louis Rees-Zammit yn dechrau yn safle’r cefnwr wedi i Steve Tandy enwi ei dîm i wynebu Lloegr yn eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Dewi Lake fydd yn arwain y tîm fel capten wrth i Tandy gymryd yr awenau yn ei gêm Chwe Gwlad gyntaf fel hyfforddwr Cymru.
Fe fydd y Cymry yn teithio i Twickenham yn gobeithio am ganlyniad gwell na’r golled o 14-68 yn erbyn y Saeson yng ngêm olaf y bencampwriaeth y llynedd.
Fe fydd Zammit, sydd wedi chwarae’r rhan fwyaf o’i gemau dros Gymru fel asgellwr, yn cychwyn yn y crys rhif 15 yn y gêm hon.
Ar yr esgyll naill ochr iddo, fydd Ellis Mee a Josh Adams.
Mae Ben Thomas ac Eddie James yn cychwyn fel canolwyr, tra y bydd Tomos Williams a Dan Edwards yn llywio’r chwarae fel mewnwr a maswr.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2019383473010618677?s=20
Yn y rheng ôl, mae Alex Mann wedi’i ddewis fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll, gyda Josh Macleod yn hawlio’r crys rhif saith ac Aaron Wainwright yn wythwr.
Adam Beard a Dafydd Jenkins sydd yn ffurfio’r ail-reng, tra bod Nicky Smith ac Archie Griffin wedi ei enwi fel y ddau brop, naill ochr i Lake.
Mae’r prop pen tynn Tomas Francis wedi’i enwi ar y fainc wrth i Tandy benderfynu cynnwys chwe blaenwr.
Rhys Carre, Liam Belcher, Ben Carter, Harri Deaves, Taine Plumtree, Kieran Hardy a Mason Grady yw gweddill yr eilyddion.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy: "Mae Cymru’n erbyn Lloegr bob amser yn gêm arbennig.
"Ry’n ni gyd yn gwybod am yr hanes rhwng y ddwy wlad ar y maes rygbi ac ry’n ni gyd hefyd yn gwybod eu bod nhw’n chwarae rygbi gwych ar hyn o bryd.
"Mae’r garfan wedi ymarfer yn arbennig yr wythnos yma. Rydw i eisiau gweld ni’n mynd mas i’r maes ddydd Sadwrn a rhoi’r perfformiad gorau posib y gallwn ni.
"Mae dechrau ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn Twickenham yn tynnu dŵr i’r dannedd a dyw’r bechgyn methu ag aros."
Llun: Asiantaeth Huw Evans