Britney Spears yn rhyddhau fideo ar ôl i reolaeth ei thad dros ei bywyd ddod i ben

Mae'r seren bop, Britney Spears, wedi rhyddhau fideo ar ôl i reolaeth ei thad dros ei bywyd ddod i ben.
Dywedodd barnwr yr wythnos diwethaf nad oes hawl gan Jamie Spears wneud penderfyniadau am arian, gyrfa a bywyd personol ei ferch ar ôl bron i 14 o flynyddoedd.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Spears ei bod yn gyffrous ac yn ddiolchgar i allu gwneud "pethau bach nad oeddwn i'n arfer gallu gwneud fel defnyddio cerdyn banc ac allweddi car"
Yn ôl The Guardian, dywedodd ei bod yn diolch i'w hymgyrchwyr: “Roedd fy llais yn fud ac wedi'i fygwth am gymaint o amser a doeddwn i ddim yn gallu siarad na dweud unrhyw beth... fe wnaethoch chi achub fy mywyd, 100%."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: rhysadams drwy Flickr