Newyddion S4C

Clwstwr o achosion Covid-19 mewn rhan o Sir Gaerfyrddin

16/11/2021
Aman

Mae'r awdurdodau yn Sir Gaerfyrddin yn rhybuddio am glwstwr o achosion o Covid-19 yn y sir.

Dywed yr awdurdodau fod y rhan fwyaf o'r achosion yn ardal Dyffryn Aman yn gysylltiedig â digwyddiad cymdeithasol.

Mae Newyddion S4C ar ddeall fod gan nifer o'r achosion yn yr ardal gyswllt â lleoliad chwaraeon.

Mae rhai lleoliadau yn yr ardal wedi cau'n wirfoddol nes bydd y sefyllfa o ran y feirws yn fwy sefydlog.

Ar hyn o bryd, nid yw awdurdodau’n ymwybodol o un digwyddiad penodol sy'n gyfrifol am yr achosion yn ardal Sanclêr.

Dywed Cyngor Sir Gâr fod y gyfradd o achosion yn ardal Dyffryn Aman yn 1,559.53 fesul 100,000 o'r boblogaeth ac mae 1,578.46 achos i bob 100,000 o bobl yn Sanclêr.

Mae tîm olrhain cysylltiadau Cyngor Sir Gaerfyrddin yn annog pobl yn yr ardaloedd hyn i gymryd gofal ychwanegol.

Maen nhw hefyd yn annog preswylwyr i gael apwyntiad brechiad atgyfnerthu pan ddaw'r cynnig.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.